Fe'i dyfarnwyd iddo mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 9 Mai. Rhoddir y Fedal bob blwyddyn er 1976 i gydnabod ac anrhydeddu gwasanaeth gwirfoddol gan unigolyn i bobl ieuanc i hybu'r iaith ac amcanion yr Eisteddfod. Yr oedd saith o enwebiadau am y Fedal eleni. Ym Mhlas Newydd, Llwyndyrys, y ganwyd ac y magwyd Gwilym, sy'n 67 oed. Daeth cymal o enw ei gartref yn gymaint cyfenw iddo ef a'i deulu â'r Griffith y'i bedyddiwyd ag ef. Gwilym Plas, Jean Plas, Dyfed Plas, Nia Plas a Medwen Plas. Dyna nhw - ac mae'r un peth yn wir eto am blant Dyfed sy'n ffermio ym Mhlas Newydd heddiw ar ôl i'w rieni ymfudo i Blas Isa' ac i Gwilym rhyw chwarter ymddeol. Mae'n dal i odro ac i werthu wyau. Yn arweinydd Cymanfaoedd ac eisteddfodau mae'n amlwg i bawb nad baich i Gwilym ond pleser yw'r holl draul ar ei oriau hamdden. I ddarllenwyr y Ffynnon prin fod angen rhestru cymwynasau Gwilym i'w filltir sgwar. Y mae'n flaenor ac arweinydd y gân yn ei gapel. Yn actor a chynhyrchydd a chyfarwyddwr bu'n ymwneud â chwmni drama Llwyndyrys o'i ddechreuad dros ddeugain mlynedd yn ôl. Yn y capel, mewn cynyrchiadau Nadolig ac ati, yn ŵr ieuanc ar ôl gadael Coleg Glynllifon, y dechreuodd ymddiddori mewn drama ynghyd â dysgu plant Llwyndyrys i ganu ac adrodd. Bellach daeth galw am hyfforddi'r pedair wyres a'r pum ŵyr yn ogystal heb sôn am bartïon i'r Gylchwyl. Mae'n hanu o deuluoedd cerddorol o'r ddeutu a bu ganddo yntau gôr llwyddiannus iawn ar un cyfnod. Ond ym myd adrodd y gwnaeth ef a Jean a'r genod eu marc yn genedlaethol. Mae'r pedwar ohonynt wedi dod i'r brig un ai yn yr Eisteddfod Genedlaethol neu Eisteddfod yr Urdd. Cipio gwobrau cenedlaethol am wneud silwair a wna Dyfed. Mae ganddo lais bâs da ond ni fentrodd gystadlu ymhellach na llwyfan y Gylchwyl. Llongyfarchiadau mawr i ŵr y Plas. Os bu rhywun erioed yn haeddu'r anrhydedd y mae'r gwladwr hynaws wyneb-lawen hwn.
|