大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Y llyfr cofnodion Ar Gof a Chadw
Mai 2005
Pan oedd Wil Roberts yn clirio t欧 ei fam, y ddiweddar Mrs Catherine Roberts, Bryn Coed, Chwilog, daeth o hyd i bentwr o bapurau yn dyddio'n 么l i gychwyn Hufenfa De Arfon.
Ei dad, y diweddar J O Roberts, oedd ysgrifennydd cyntaf y cwmni cydweithredol o ffermwyr lleol a sefydlodd yr Hufenfa yn 30au'r ganrif ddiwethaf.

Ymhlith y creiriau roedd llyfr cofnodion y cyfarfod cyntaf un, ar Fai 27ain 1936, o bwyllgor yr hyn y bwriedid ei alw'n'Eifion Creameries'.

"Syniad fy nhad oedd sefydlu cwmni cydweithredol" meddai Wil Roberts. "Roedd o'n gweithio ar fferm Coleg Bangor yn Abergwyngregyn yn y cyfnod hwnnw ac yn sgwennu colofnau ar amaethyddiaeth i'r wasg. Mewn erthygl ym mhapur newydd 'Y Genedl' y gwyntyllodd o'r syniad gynta, ac o'r fesen honno y tyfodd y goeden braff sydd yn Rhydygwystl heddiw".

"Doedd hi ddim yn hawdd ar y cychwyn" meddai. "Ddaeth yr un copa walltog i'r cyfarfod cyhoeddus cynta a drefnwyd ym Mhwllheli i drafod cychwyn hufenfa. Ond roedd gwell trefn erbyn yr ail gyfarfod a chafwyd digon o gynulleidfa i ddewis pwyllgor.

"Digon llugoer oedd trwch ffermwyr y cylch ar y pryd. Dim ond ar 么l i'r rhai a oedd yn gyrru eu llaeth i'r ffatri ddechrau derbyn sieciau'n fisol y sylweddolodd y rhan fwyaf fod cydweithredu'n talu".

"Pan ddigwyddodd hynny, agorodd y llifddorau gyda ffermwyr yn ymryson 芒'i gilydd am gael dod yn aelodau o'r cwmni newydd. Ond dim ond hyn a hyn o laeth allai'r ffatri ei drin ar y dechrau a bu raid dogni ar aelodaeth yn fuan iawn. Mae sawl llythyr gan ffermwyr yn crefu am gael dod yn aelodau".

Ymhlith y creiriau hefyd mae pentwr o lythyrau oddi wrth Mr H E Roberts, yn wreiddiol o Laniestyn, a oedd yn gweithio ar y pryd fel trefnydd i'r Welsh Agricultural Organisation Society yn Aberystwyth, corff a oedd yn annog ffermwyr i gydweithredu wrth farchnata eu cynnyrch.

"Roedd H E a nhad yn ffrindiau mawr", meddai Wil "a'r ddau yn rhannu llety pan oedden nhw yn y Coleg ym Mangor efo'i gilydd. Roedd H E yn yr union swydd lle gallai fod fwyaf o help i'r fenter newydd ac mae'n amlwg o'r ohebiaeth i'w gyfraniad fod yn amhrisiadwy".

Menyn a gynhyrchid yn y ffatri yr adeg hynny ac ymhlith y papurau mae englyn i Fenyn Eifion gan y diweddar Guto Roberts, Rhoslan, a fu'n gwerthu'r menyn i siopau lleol am flynyddoedd.

Un blasus, ca pawb ei blesio - a llu
Gyda llaw'n ei geisio
A choeliwch, does er chwilio
Un i'w gael sy'n well nag o.

Dechreuwyd gwneud caws ym 1958 a dyma englyn iddo gan y diweddar John Rowlands, y Ff么r, a oedd yn gyrru lorri laeth i gasglu llaeth ffermwyr cylch Aberdaron ar y pryd.

Hen luniaeth a foliannwn - ar ei nodd
A'i fawr nerth dibynnwn
Saig y tir fe wasgwyd hwn
O geinder d么1 a gwndwn

Yn naturiol, Cymraeg oedd iaith pwyllgor yr Hufenfa o'r cychwyn a cheir llythyr oddi wrth Gymdeithas yr laith Gymraeg, dyddiedig 25ain Mawrth 1965, yn llongyfarch yr Hufenfa "ar gyhoeddi ei mantolen flynyddol yn yr iaith Gymraeg. Yn ddiau, dyma'r weithred rymusaf o blaid y Gymraeg a gyflawnwyd ers amser maith a chredwn yn ddiffuant y bydd ei dylanwad yn drwm ac yn llesol all fywyd ein gwlad".

Roedd hyn, wrth gwrs, cyn dyddiau dilysrwydd cyfartal a statws cyfreithiol i'r iaith.

Trosglwyddwyd y casgliad i Archifdy Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon. "Er fod hanes yr Hufenfa wedi'i groniclo'n bur dda, does dim tebyg i ddarllen y papurau gwreiddiol i roi blas y cyfnod ar yr hanes" meddai Wil Roberts. "Bydd rhain ar gael yn yr Archifdy i bawb eu gweld".


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy