Roedd hi'n falch iawn o'i gael gan iddo fod yn rhan o brosiect i gynorthwyo merched i ddatblygu sgiliau a menter mewn busnesau bychain i'w cynnal eu hunain a'u teuluoedd ar ôl yr holl ryfela.
Mae Mrs Roberts yn aelod o fudiad byd-eang - Y Soroptimistiaid Rhyngwladol - sydd yn gweithio dros heddwch ac iawnderau dynol.
Ar funud wan dywedodd Mrs Roberts; "Mi bwythaf innau ddarn o waith
i chwi hybu'r achos" heb feddwl am y problemau o'i blaen.
Araf iawn fu'r ysbrydoliaeth i gychwyn arni, misoedd yn mynd heibio heb symud gan fod cymaint o agweddau gwahanol i'r gair 'heddwch'.
Ar wyliau yn yr Iwerddon gyda Dafydd fe ddatblygodd pethau. Ar fore rhydd dywedodd Dafydd: "Beth am aros yn y gwesty a'r ardd. Mae'n braf iawn allan. Mi wna i ddarllen a chewch chwithau bwytho?" A dyna fu - diwrnod tawel, hyfryd.
Colomendy
Ar fryncyn yn yr ardd roedd colomendy hardd, gwyn a phinc, gyda chriw o golomennod gwynion yn cartrefu ynddo.
Roeddynt newydd gyrraedd ychydig ddyddiau ynghynt ond yn cael eu caethiwo oddi tan weiran neting rhag ofyn iddynt hedfan i ffwrdd. 'Roeddynt i'w gweld yn eithaf bodlon yn sibrwd a chwan yn dawel ymysg ei gilydd.
Yn y cefndir 'roedd sŵn afon yn byrlymu tros raedr bychan - "Gwesty'r Rhaeadr" (Falls Hotel) oedd enw'r lle, sef hen fanordy a fu'n gartref i Caitlin Thomas, gwraig Dylan Thomas, y bardd,
a'i theulu. 'Roedd y cyfan yn creu awyrgylch hyfryd a heddychlon.
Gyda'r blodau lliwgar yn gorlenwi border yr ardd, y rhaeadr a'r colomendy roedd yma restr o bethau addas ar gyfer y dyluniad.
Gorchfygwyd y problemau drosglwyddo'r dyluniad i'r ffabrig drwy chwistrellu paent yn ysgafn fel cefndir, gwneud y colomendy o gardfwrdd, a'i chwipio gyda phwythau. Yna defnyddio
clipiau papur cryfion ar gyfer yr obelisg i gynnal y rhosod melyn. Mae'r lliwiau glas a melyn yn amlwg iawn - lliwiau'r Soroptimistiaid.
Dewiswyd pwythau addas i gynrychioli'r gwahanol fath o flodau. Symbolau ydynt i chwi gael dychmygu yr ardd yn eich meddwl. Mae amrywiaeth o edeuon o liwiau gwahanol wedi eu defnyddio - pob lliw yn wir ond coch llachar, sef lliw gwaed a rhyfel.
Mae'r pedair colomen wen (colomennod heddwch) yn cynrychioli'r pedair ffederasiwn yn y mudiad drwy'r byd.
Mae'r
hefyd, rhai
gynrychioli'r
colomendy.
Cefnogi Sierra Leone
Bydd y gwaith yma yn mynd i gefnogi prosiect Sierra er budd plant mewn angen difrifol yn Sierra Leone, sydd wedi dioddef cymaint oherwydd rhyfela.
Partneriaid y Soroptimistiaid yn y fentr hon yw mudiad 'Hope and Homes for Children', a hwy fydd yn gweithredu yn y wlad i godi cartrefi, ysgolion a chanolfannau iechyd yn y gobaith o roi cychwyn ar fywyd dan well amgylchiadau.
Aeth llawer o feddwl ac oriau o waith pwytho a llaw i greu'r dyluniad sy'n rhyfeddol o gain.
Mae Mrs Enid Roberts wedi mentro hefyd i gael cardiau ysgrifennu wedi eu cynhyrchu gan gwmni lleol, a gobeithio y bydd eu gwerthiant yn cynhyrchu rhagor o elw i hybu'r fentr.