Agorodd siop newydd o'r enw 'Tlws' ar y Stryd Fawr ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn diwethaf fydd yn hafan i'r brid hwn o heliwr anrhegion.
Gemwaith cyfoes o bob llun a lliw a werthir yn y siop.
Ac uchod gwelir Mared Evans, Bryn Gwynt, Chwilog, sydd newydd dderbyn swydd llawn amser yno.
Ar ôl graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, bu Mared yn gweithio i Menter laith Gwynedd.
A thrwy'r asiantaeth honno y clywodd fod 'Tlws' yn chwilio am rywun brwdfrydig i weithio yn eu cangen newydd yn Eifionydd.
Un â digon o fenter yn perthyn iddi yv Gaenor Robens, perchennog y busnes.
Rhoddodd Gaenor, sy'n wraig fferm o Lanfair Talhaiarn ac vn fam i dair merch ieuainc, y gorau i'w gyrfa ym myd addysg i anturio i fyd gwerthu gemwaith.
Lansiodd 'Tlws' yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffmiau yn Awst 2005 ac ers hynny mae Gaenor wedi bod yn teithio hyd a lled Gogledd Cymru yn cynnal Parton Gemwaith i gyflwyno a gwerthu ci chasgliad deniadol.
Mae'r casgliad yn cynnwys clustdlysau, breichledau, modrwyau a mwclis o leoedd cyn belied ag Indonesia a Seland Newydd.
Ymhlith y casgliad hefyd y mae gwaith wedi ei ddylunio a'i wneud gan Nerys Jones o Gaernarfon gemwaith unigryw yn defnyddio gleiniau Iliw.
Cynhyrchwyd catalog chwaethus fel bo cwsmeriaid yn gallu pori drwyddo gartref ac archebu dros y ffôn neu arlein.
Gan fod y busncs wedi cynyddu mor sydyn pan oedd yn gweithio o'i chartref, penderfynodd Gaenor agor siop y llynedd yn Abergele.
Bellach aeth un siop yn ddwy gydag agoriad y 'Tlws' diweddaraf ym Mhorthmadog.
Piciwch draw am sbec.
|