Yn wobrau yn y cystadlaethau hyn dyfernir dau dlws, y naill i ysgrifenwyr dan 18 oed a'r llall i oedolion hyn. Lluniwyd y tlysau'n gelfydd o bren derw Eifionydd gan Elis, mab Elis Gwyn.
Y beirniad eleni oedd y
newyddiadurwr a'r awdur toreithiog Ioan Roberts o Bwllheli, a'r enillwyr oedd Heledd Hughes o Bencaenewydd (dan 18 oed) a Sian Northey o Bentrefelin. Aeth
yr ail wobr i rai dan ddeunaw i
Gwenllian McNaughton o Bencaenewydd.
Ar achlysur y gwobrwyo ar derfyn cyfarfod blynyddol Y Ffynnon yng ngwesty'r Marine, Cricieth ar 2 Gorffennaf cafwyd perfformiad o olygfa o 'Bobi a Sami', un o ddramâu W.S, gan dri disgybl o Ysgol Glan-y-Mor - Tomos Moore, Euros Wyn Jones ac Elis Dafydd - dan hyfforddiant Enid Parri Evans, a chafwyd darlleniadau o 'Cyfaredd Eifionydd' detholiad o ysgrifau Elis
Gwyn i'r Ffynnon, gan Dewi R. Jones.
Y llywydd oedd Dewi Williams, Cadeirydd pwyllgor Y Ffynnon,
|