Mae cannoedd o welyau bychain yn cael eu tyfu ar fferm y coleg yn Aber lle'r arbrofir gyda gwahanol hadau a lefelau o wrteithiau ac ati. Y nod yw canfod pa fathau o blanhigion fyddai yn medru cael eu ffermio yma yn hinsawdd Gogledd Orllewin Cymru. Dau o'r cnydau hyn sydd erbyn hyn yn cael eu tyfu ar raddfa fwy ar ffermydd yw had llin a cheirch noeth Gellir defnyddio'r planhigion i gyd ar gyfer gwahanol ddibenion o brosesau diwydiannol i ddibenion meddygol a chosmetig. Mae tua wyth fferm yn tyfu tua 4-5 erw bob un yma ac acw yng Ngwynedd ac y mae dwy fferm yma yn Eifionydd yn tyfu ceirch noeth. Roedd tyfu ceirch yn beth cyffredin iawn yma hyd at bumdegau'r ganrif ddiwethaf ond erbyn hyn mae wedi mynd yn beth prin iawn ar wahân i geirch sydd yn cael ei dyfu er mwyn gwneud silwair ohono. Y prif resymau am hyn yw y newid mewn dulliau o ffermio, sef yr arfer o brynu dwysfwyd ar gyfer yr anifeiliaid yn hytrach na'i gynhyrchu gartref. Hefyd, hyd at y pumdegau arferid torri'r ceirch gyda beindar, ei dorri yn lliw ysguthan, hynny yw cyn iddo aeddfedu yn iawn neu pan oedd yn troi ei liw. Gadewid ef wedyn mewn styciau ar y cae i orffen aeddfedu. Doedd hyn ddim yn bosibl pan ddaeth y dyrnwr medi i ddisodli'r beindar a'r canlyniad oedd i'r ceirch hirgoes fynd i orwedd ac yn anodd iawn eu torri a'u cael yn weddol sych. Oherwydd hyn newidiodd llawer i dyfu haidd yn ei le. Felly ar ôl bwlch o tua 35 mlynedd yn Gwindy Llecheiddior dyma roi cynnig ar dyfu ceirch unwaith eto ond ceirch noeth y tro hwn mewn partneriaeth â Menterra. Mae'r ceirch hwn yn wahanol i'r un arferol gan nad oes dim rhisgl ar yr hedyn ac o'r herwydd mae yn fannach o lawer. Golyga hyn fod rhaid hau llawer iawn llai o ran pwysau, sef tua tri chwarter cant i'r acer (100kg / ha). Ar wahân i hynny mae'r gwaith o'i dyfu yn debyg iawn i unrhyw ŷd arall ac fel y gwelwch mae wedi tyfu yn eithaf da ac yn sefyll bron i bedair troedfedd mewn mannau er gwaethaf y sychder a gafwyd ym mis Mai eleni. Y gobaith yn awr yw y bydd yn aros ar ei draed ar gyfer ei dorri. Unwaith y bydd wedi ei dorri bydd y grawn yn eiddo i Menterra a bydd y brifysgol yn arbrofi gyda gwahanol gynhyrchion y gellir eu cael oddi wrtho. Gall hyn amrywio o fwydydd i wneud cwrw gan fod yr olew sydd ynddo yn fath sydd yn dda iawn at ostwng lefelau colesterol y corff. Yn ôl John Roberts o Lanystumdwy sydd yn Swyddog Mentrau Amaeth gyda Menterra mae ceirch noeth eisoes yn cael eu defnyddio mewn bwyd dofednod a cheffylau gan fod mwy o egni ynddo bwys am bwys na cheirch cyffredin. Ond y prif obaith yw y bydd hylif a ddistyllir ohono yn cael ei ddefnyddio i bwrpas cosmetig. A dyna lle daw Bic Eryri i mewn i ymchwilio i'r posibiliadau masnachol i'r fenter i'r dyfodol. A phwy a ŵyr, hwyrach y bydd ceirch noeth yn cynnig dewis arall i ffermwyr Gwynedd yn y dyfodol yn lle cynhyrchu dim ond cig a llefrith.
|