Pob un ohonynt yn cario rhyw lun ar beiriant amaethyddol - rhai yn sgleinio fel swllt, eraill ag' arnynt ôl gwaith blynyddoedd. Roedd tractorau crand fel newydd yn pasio hefyd ac ambell i JCB mawr melyn. Fe ddeuent o bell ac agos.
Ar eu ffordd yr oedd y cwbwl i ben draw Llyn, i fferm Bodwyddog Fawr, Y Rhiw a bod yn fanwl, a hynny er mwyn Sadwrn cystadlu yn Ras Aredig flynyddol Sarn Mellteyrn a'r Cylch.
Yr oedd rhai wedi teithio y diwrnod cynt ac wedi aros dros nos, eraill wedi cychwyn yn blygeniol er mwyn cyrraedd mewn pryd. Syndod oedd deall fod yno rai o gyn belled a Willoughby - on - the -Wolds, pentref bychan yn Swydd Nottingham ac eraill o Rotherham, yn ogystal â Chymry o Gastell Newydd Emlyn a thu hwnt.
Bu'r trefnwyr yn eithriadol o ffodus yn y tywydd ac er bod y gwynt braidd yn oer ar brydiau cafwyd diwrnod gwerth chweil a balchder y dynion (erbyn meddwl, welais i yr un ferch) wrth eu gwaith, y manylder a'r canolbwyntio yn destun edmygedd.
Gruffydd Jones, Llwyn Derw, Rhoslan ddaeth i'r brig eleni gan ennill y wobr gyntaf yn ei ddosbarth am aredig clasurol. Ei frawd, Gareth Jones, Ty'n Coed, Abererch ddaeth yn ail yn yr un gystadleuaeth. Cipiwyd y wobr am y 'redigwr gorau ymhlith cystadleuwyr o Ddwyfor hefyd gan Gruffydd Jones. Yn drydydd yn y dosbarth ar gyfer redigwyr o Ddwyfor yr oedd un aran o hogiau ardal Y Ffynnon sef Edwin Hughes, Bryn Llefrith, Llangybi. Yn y gystadleuaeth ffensio tîm Arwyn Williams, Hendre Nantcyll, Pantglas ddaeth i'r brig.
|