Beth tybed sydd wedi peri iddynt ddod yno? Ai'r tywydd oer efallai a pha obaith sydd y byddant yn aros ac yn nythu yma?
Flynyddoedd yn ôl byddai'r gornchwiglen, neu'r "hen het" yn aderyn cyffredin iawn yn yr ardal hon ond ers blynyddoedd bellach y maent wedi prinhau yn arw.
Cofia Mr John Owen, Ty'n Gors, Chwilog fel y byddai digonedd ohonynt yn nythu ar y morfa yn Abererch ac fel y byddid yn casglu eu wyau gan lawer er mwyn eu bwyta.
Y gred oedd meddai, fod y wyau yn llesol er mwyn cadw'r dyciau i ffwrdd.
Cofiaf hefyd glywed eglurhad gan fy nhaid am gri'r gornchwiglen ond ni
allaf yn fy myw gofio'r stori.
Cofiaf iddo ddweud mai'r hyn yr oedd y gornchwiglen yn ei weiddi oedd "O'r cyfnewid, cyfnewid, o'r tÅ· clyd i'r gors unig, unig".
Tybed a oes rhai o ddarllenwyr y Ffynnon yn gwybod mwy. Anfonwch air [Gol]
|