´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
CPD Llanystumdwy Pencampwyr Llanystumdwy
Mai 2007
Enillwyr ddwywaith drosoddbr/>Yr adeg yma o'r flwyddyn mae cyffro a chwilfrydedd mawr ymhlith dilynwyr y bêl gron gan mai dyma gyfnod cyfrif pwyntiau a chwarae gemau terfynol.
Bechgyn sydd yn gyfarwydd iawn â hyn yw tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Llanystumdwy - tîm sydd wedi ennill cryn lawer o gwpanau ac anrhydeddau dros y degawd diwethaf.

Eleni maent wedi gwneud yn arbennig o dda ac wedi rhoi pentref Llanystumdwy yn bendant iawn "ar y map".

Yn dilyn eu buddugoliaeth (3 - 0) yn erbyn Penrhyn ar 10 Ebrill, roedd y tîm wedi ennill 24 gem, wedi dod yn gyfartal mewn un ac wedi colli un, a hynny yn sicrhau eu bod wedi ennill Cwpan Cynghrair Caernarfon a'r Cylch gydag ugain pwynt wrth gefn, ac ar ddydd Sadwrn, 5ed Mai cyflwynwyd y cwpan iddynt gartref ar Barc Dwyfor lle byddant yn ymarfer ac yn chwarae eu gemau cartref.

Atyniad arall y diwrnod hwnnw oedd gem gyfeillgar rhwng y tîm dan 14 a'r tîm cyntaf a chwaraeai ugain mlynedd yn ôl (ac yn ddistaw bach yr hogia a enillodd !).

Mae ganddynt ddau reolwr - Aled Jones a Kevin Griffiths - Aled wedi bod yn ei swydd ers pymtheng mlynedd a Kevin ers pedair. Ac y tu cefn iddynt mae pwyllgor, swyddogion a chriw o gefnogwyr selog yn sicrhau bod pawb yn cael chwarae teg.

Mae llwyddiant fel hyn i dîm lleol yn golygu ymroddiad mawr ar ran yr hogia - byddant yn ymarfer ddwywaith yr wythnos - ar y cae pan fydd y tywydd yn caniatáu neu yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ar dywydd gwael. Ac mae'r to ifanc yn dilyn yn dynn wrth eu sodlau - mae 120 o blant dan 16 oed wedi cofrestru gyda'r clwb ac yn chwarae dan bedwar gwahanol oedran, gan sicrhau y bydd chwaraewyr ifanc yn aeddfed ac yn gymwys i ymuno a'r tîm cyntaf pan ddaw'r cyfle.

Yn Llanrug ddydd Sadwrn diwethaf chwaraeodd y tîm yn rownd derfynol Cwpan Safeflue yn erbyn tîm Caernarfon Boro' a'r sgôr ar ddiwedd y gêm yn 3 - 0 o blaid Llanystumdwy. Cwpan arall i'r hogia! Ein llongyfarchiadau cynhesaf iddynt.

Mae un gêm derfynol yn eu wynebu eto sef Cwpan Ffilmiau'r Nant a chynhelir yr ornest honno ym Mhwllheli ar Fai 15fed, yn erbyn Nefyn.

Bryd hynny bydd y Ffynnon ar ei ffordd i'r wasg felly dywedwn hei lwc am drydydd cwpan - gobeithio bod digon o le iddynt i gyd yn y cwpwrdd gwydr!!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý