大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Barry a Pam Newid Dwylo
Mawrth 2005
Wedi dros saith mlynedd ar hugain wrth y llyw, ffarweliodd Tony ac Irene Williarns, 芒'u cwsmeriaid yn siop bapur newydd Newsday ar y Stryd Fawr yng Nghricieth, gan drosglwyddo'r awenau i Barry a Pam Owen.
Hogyn o Gricieth yw Barry a merch o Swydd Dumfries yn yr Alban yw Pam. Cyfarfu'r ddau ddeuddeng mlynedd yn 么l pan ddaeth Pam i weithio i westy'r 'Lion'.

Ar 么l priodi, buont yn byw yn Llwyn Idris gyda'u dwy ferch fach - Rebecca sy'n 10 oed a Kara sy'n 5 cyn symud i'r fflat uwchben y siop dair wythnos yn 么l.

Argraffydd yw Barry wrth ei alwedigaeth, ond erbyn hyn mae'n gwneud bron i ddiwrnod o waith cyn cyrraedd Gwasg Eryri ym Mhorthmadog am 9. Rhaid codi am 5 y bore er mwyn derbyn y papurau newydd, yna danfon nifer helaeth ohonynt o gwmpas Cricieth, Rhoslan, Llanystumdwy a Phentrefelin.

Ers tro byd, rhoddodd Barry a Pam eu bryd ar fod yn berchen ar eu busnes eu hunain, ac mae Pam yn hen law ar drin cwsmeriaid gan iddi eisoes weithio yn siopau Spar a Londis y dref. Nid yw'n fwriad ganddynt newid dim ar drefn y cyn berchnogion a byddant ar agor bob dydd o'r flwyddyn, ac eithrio diwrnod Nadolig pan fyddant yn cael seibiant haeddiannol.

Tony ac IreneGweithio oriau hirion heb fawr o wyliau o un pen blwyddyn i'r llall oedd arferiad Tony ac Irene hefyd, a pheth digon rhyfedd, ar hyn o bryd, yw cael amser i orffwys yn eu cartref newydd yn Erw Wen, L么n Ty'n Llan, gyda Mrs Mary Elizabeth Williams, mam Tony (wyneb cyfarwydd arall tu 么l i gownter y siop), a Gwyn, eu mab, sy'n gogydd ym Mhortmeirion.

Mae Tony'n bwriadu treulio rhywfaint o'i ymddeoliad yn torri gwair y cwrs golff yng Nghricieth, ble mae'n aelod selog. Erbyn hyn, mae gan Irene flys dysgu chwarae'r g锚m hefyd, ac mae'n fwriad ganddi hithau chwilio am waith rhan amser yn ogystal, gan fod y diwrnod yn hir heb ddim i'w wneud ond mynd 芒'r ci am dro.

Prynodd Tony siop Newsday ar 1 lonawr 1978, wrth iddo ddychwelyd i'wgynefin ar 么l treulio cyfnod yn gweithio i gwmni Allied Bakeries yn LIundain. Bu sawl diwrnod difyr yn y siop, ond mae'n debyg mai'r un mwyaf cofiadwy oedd hwnnw pan syrthiodd corn simdde trwy do asbestos yr ystafell gefn yn ystod daeargryn Gorffennaf 1984. Wyth o'r gloch y bore oedd hi, a chyda Tony allan yn danfon papurau, sgrialodd y merched oedd yn gweithio yno ar y pryd allan i'r stryd dan sgrechian.

Cofia Irene am y tro pan chwythodd rhyw chwa ffyrnig y cardiau post oddi ar eu stondin y tu allan i'r siop, a hithau ac Elwyn Bara yn rhedeg i lawr y stryd ar eu holau. Bydd yn chwith garw ganddi ar 么l y gwmn茂aeth a gawsai yn y siop, yn enwedig y pyliau chwerthin mawr wrth i Eluned Hughes a hithau dynnu coes rhai o'r ffermwyr a alwai yno yn gynnar bob bore.

Os bydd Barry a Pam yn dilyn yn 么l troed siopwyr eraill y rhan hon o Stryd Fawr Cricieth, mae'n bur debyg y byddant yno am flynyddoedd maith i ddod.

Treuliodd Irene 37 mlynedd yn y rhes: i ddechrau yn siop Mace (ble mae Spar heddiw) cyn symud i Newsday. Rhwng ei chyfnodau yn siop y cigydd, Mace a Newsday mae Eluned Hughes, un o weithwyr ffyddlonaf a rhadlonaf y siop bapur, wedi treulio dros 40 mlynedd yn y rhes.

Dymunwn y gorau i Tony ac Irene ar eu hymddeoliad ac i Barry a Pam ar eu menter newydd. Bydd yn newid byd ar y pedwar ohonynt.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy