´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Y criw dros 40 oed Aduniad Ysgol Llangybi
Hydref 2004
Wrth weld y genod acw yn cael estyniad newydd yn eu hysgol yn Llangybi yr haf yma, dyma gofio'n ôl i fy nyddiau innau yn yr ysgol braf honno.

Ddeugain mlynedd yn ôl, ym mis Medi 1964, agorwyd Ysgol Gynradd Llangybi ar ei newydd-wedd. Roedd yr hen ysgol wedi ei. thrawsnewid yn llwyr. Dydy "Changing Rooms" ddim ynddi hi! Trowyd Ystafell y Babanod, sef Dosbarth Miss Mai Jones a'i grât agored, yn gegin fodern i Mrs Jones, Bronallt a Mrs Pritchard, Fron Olau, a throwyd y Rŵm Fawr - Dosbarth Mr Jones yn ystafell ddosbarth braf i Miss Mai.

Ychwanegwyd at hynny ddwy ystafell ddosbarth fawr arall, dau gyntedd a thoiledau y tu fewn am y tro cyntaf. Gydag ysgolion Brynengan a Bwlchderwin wedi cau eu drysau am y tro olaf yr Haf hwnnw, yn ogystal â chynnydd yn nifer y plant yn yr ardal, croesawyd tua trigain o blant i'r Ysgol y mis Medi hwnnw.

Deugain mlynedd - carreg filltir go arbennig. Ble'r aeth yr holl blant oedd yno yn y cyfnod hwnnw? Syniad! Beth am gael aduniad? Beth am ymestyn y cyfnod i ddyddiau Prifathrawiaeth Mr H.D. Jones?

Ffonio, sgwennu, gosod posteri, swnian, ac ar y cyd â Rhian a Beti, dyna drefnu i bawb oedd â diddordeb, i ddod i'r Aduniad yng Ngwesty'r Goedlan, Edern ar 18 Medi i gael bwffe.

Yn drist iawn, mae rhai cyfoedion wedi'n gadael, ac oherwydd gwahanol amgylchiadau methodd llawer un arall a bod yn bresennol. Ond daeth yn agos at gant ohonom ynghyd i fwynhau cyfarfod â hen ffrindiau.

Yn ogystal â'r "plant", roedd yn braf gweld rhai o'r staff wedi troi atom. Bu Mrs Hughes Tŷ Newydd yn cynorthwyo ar amser cinio a chasglu arian cinio am flynyddoedd.

Yn bresennol hefyd roedd Mrs Kathleen Roberts ddechreuodd yn yr Ysgol fel athrawes pan agorwyd yr ysgol newydd. Hefyd, y bytholwyrdd, Mr H.D. Jones, y Prifathro, ac roedd yn bleser gwrando ar ei araith ddifyr ar ôl y bwyd, yn dwyn atgofion pleserus am ddigwyddiadau o'r cyfnod hwnnw.

Cafwyd cyfle hefyd i edrych ar hen luniau a ddaeth gydag ef mewn dwy albwm, yn ogystal â lluniau gan gyfoedion eraill. Hedfanodd y noson wrth gael sgwrs a hel atgofion difyr hefo hwn a'r llall. Roedd yn braf iawn gweld yr hen griw unwaith eto a diolch iddynt am ddod. Noson o fwynhad pur!

Hafwen, Bryn Mawr


Cyfrannwch

Elliw o Rhiwbeina Caerdydd
Diwrnod yn llawn atgofion, hyfryd oedd cael mynd yn ol i ddyddiau plentyndod a chyfarfod a ffrindiau bore oes,diolch am drefnu.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý