Roedd yn perfformio yn Venue Cymru, Llandudno fis Hydref. Magwyd Owain Arthur, sy'n 23 mlwydd oed, ym mhentref Rhiwlas ger Bangor, ond un o Lanaelhaearn yw Eleri, ei fam. Yn ferch i'r ddiweddar Phyllis Goodwill, Becws Glanrhyd gynt, mynychodd Eleri ysgol y pentref ac Ysgol Glan y Mor, Pwllheli.
Erbyn hyn mae Eleri ac Eurwyn, ei gŵr, yn byw yng Nghaernarfon ac Eurwyn, bellach, sy'n rhedeg Becws Glanrhyd. Edwards yw cyfenw'r teulu, ond bu'n rhaid i Owain newid ei enw proffesiynol, gan fod rhywun arall o'r un enw eisoes yn perthyn i Equity.
Mae Owain yn fwy adnabyddus i ni yma'n Eifionydd fel y cymeriad Aled ar 'Rownd a Rownd'. Bu'n actio yn y gyfres (sy'n cael ei chynhyrchu gan Robin Evans, Gwyddfor, Pencaenewydd gynt) am 9 mlynedd cyn cael ei dderbyn i Goleg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain dair blynedd yn ôl. Cyn graddio'r haf hwn enillodd Owain wobr aur am ei waith yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg, ac efallai fod rhai ohonoch yn cofio iddo ennill Gwobr Goffa Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001.
Ymunodd a chast 'The History Boys' ym mis Awst eleni ac ers hynny bu'r cwmni'n perfformio'r ddrama ledled Prydain. Bydd y daith yn dod i ben ddiwedd Tachwedd yng nghanolfan Lowry yn Salford, ond bydd Owain a gweddill y cast yn cychwyn ar gyfnod sefydlog yn Theatr Wyndham's, Llundain o ddiwedd mis Rhagfyr ymlaen.
Lleolir 'The History Boys' mewn ysgol ramadeg yng ngogledd Lloegr yn ystod yr Wythdegau Thatcheraidd, ac yng nghwrs y ddrama dilynwn hynt a helynt wyth o fechgyn chweched dosbarth, wrth iddynt gael eu hysio i lawr y llwybr am Rydychen neu Gaergrawnt gan Brifathro unllygeidiog o uchelgeisiol.
Mae portread Owain o'r cymeriad Timms yn cyfleu brwdfrydedd byrlymus a diflastod llethol yr arddegyn anarchaidd i'r dim. Mewn drama sy'n gyforiog o linellau doniol, mae ei acen Swydd Efrog yn argyhoeddi'n llwyr a'i amseru'n reddfol feistrolgar. Cymer ran flaenllaw yn y 'Wers Ffrangeg' - un o'r golygfeydd digrifaf y mae rhywun yn debygol o'i weld ar lwyfan byth, ac roedd ei berfformiad cadarn yn llwyr haeddu'r gymeradwyaeth wresog a dderbyniodd ar ddiwedd y perfformiad.
Mae'n amlwg y byddwn yn clywed mwy am lwyddiannau'r actor ifanc hwn yn y dyfodol agos. Dymunwn y gorau iddo.
|