Mae'r garreg tua dwy droedfedd o ucheder a thua throedfedd a hanner o led, gyda phen crwn. math o dywodfaen ydyw, sy'n wahanol iawn i'r creigiau a geir yn yr ardal hon, ac fe'i naddwyd i ffurfio cafn. Daeth aelod o staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd draw i gael golwg arni, a dywedodd ei fod wedi gweld enghreifftiau tebyg ar Fynydd Parys yn Ynys Môn. Ni wyddus sut y daeth y cafn hynod hwn i Dyddyn Hir. Ond, yn sicr, fe ddaeth i ardal sy'n llawn hynodion. Mae tua chant a gytiau crynion a safleoedd eraill o ddiddordeb hanesyddol yn yr ardal, gan gynnwys y fryngaer ar Ben-y-gaer gerllaw, y mwyafrif ohonynt yn dyddio o Oes yr Haearn. Ni wyddys chwaith beth yw oed y cafn ond dywed Andrew y bydd yn ei drysori ar gyfer y cenedlaethau a ddaw.
|