Yn ogystal â'r tlws i'r enillydd, lluniodd hefyd dlysau llai i'r tri arall a ddaeth i'r rownd derfynol. "Mae'r pedwar yn enillwyr mewn gwirionedd," meddai Mark, sy'n aelod o bwyllgor Pabell Dysgwyr yr Eisteddfod lle cyflwynir nifer helaeth o weithgareddau ym Maes D yn ystod yr wythnos. Lluniwyd y tlysau o bren derw lleol a cherfiwyd arnynt amlinell o fynyddoedd Eryri. Un o Gosport yw Mark yn wreiddiol. Hyfforddwyd ef i drin coed mewn coleg celfyddyd a gwelir enghreifftiau o'i waith cerfio mewn arddangosfa yng Nglynllifon ym mis Medi. Y mae iddo ef a'i briod, Einir, fab a merch, Gethin Huw (11) a Ffion (8). Trwy geisio bod un cam o flaen Gethin pan oedd hwnnw'n dechrau siarad yr aeth Mark ati'n wreiddiol i ddysgu Cymraeg. Yn byw ym Mryste, penderfynodd Einir, sy'n hanu o Lanrhos, ac yntau, mai Cymraeg yn unig a siaradent o flaen Gethin - ac o flaen Ffion yn ddiweddarach. Y rheswm dros ymfudo o Fryste i Langybi oedd i sicrhau addysg Gymraeg i'r plant a rhoi cyfle iddynt fagu gwreiddiau yng Nghymru. Mae Mark erbyn hyn yn gwbl rugl ei Gymraeg. Mae wedi pasio arholiadau TGAU a Lefel A yn yr iaith, ac mae hanner y ffordd drwy gwrs gradd allanol o Goleg y Brifysgol Aberystwyth. Ers mis Medi y llynedd y mae hefyd yn athro ar dri dosbarth dysgu Cymraeg i oedolion un yn Harlech a dau yn Mhorthmadog.
|