´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Dr Melfyn Edwards Doctor ar daith
Mehefin 08
Bydd Dr Melfyn Edwards, Cricieth, yn mentro ar daith go arbennig ym mis Hydref eleni!

Ei fwriad yw cerdded o Chile i'r Wladfa yn yr Ariannin dros fynyddoedd yr Andes gyda 30 o bobl eraill o bob ran o Gymru, a hynny o dan arweiniad Iolo Williams, y naturiaethwr adnabyddus.

Bydd Melfyn yn gorfod cerdded mynyddoedd sydd hyd at 15,000 o droedfeddi o uchder. Disgwylir iddo ddefnyddio crampons, sef esgidiau pigog, mewn mannau er mwyn medru croesi rhewlifoedd dyrys!

Caiff gwmni lama ambell waith, a'r lama druan fydd yn gorfod cario bagiau ar rannau penodol o'r daith! Bydd y cerddwyr yn cysgu mewn pabell yn yr awyr agored bob nos - fydd 'na fawr o steil ar y daith hon!

Profiad unigryw ac arbennig iawn fydd cael cymryd rhan mewn taith o'r fath.

Mae'r fenter hon yn rhan o'r ymgyrch i godi arian i Mencap Cymro, sef y mudiad sy'n cefnogi pobl ag anawsterau dysgu.

Mae'n ofynnol i bob un sy'n cymryd rhan yn y fenter hon godi swm sylweddol o arian er mwyn hybu'r achos teilwng hwn.

Mae Melfyn wrthi'n ymarfer cerdded mynyddoedd yn ddygn ar hyn o bryd, ac mae ef a chriw o gyfeillion o Borthmadog, sef Dewi Lake, Simon Quaeck, Ian a Kay Jones yn bwriadu cerdded y pedwar pegwn ar ddeg, sef pob copa sydd dros 3,000 o droedfeddi yn Eryri - o'r Wyddfa i Abergwyngregyn ar y 12fed o Orffennaf.

Taith noddedig fydd hon, a gobeithia Melfyn fedru codi swm sylweddol o arian tuag at Mencap Cymru.

Fe fydd 'na daf1nni noddi yn Siop Eifionydd, yn y Feddygfa yng Nghricieth, a chan yr unigolion sy'n cymryd rhan yn y daith noddedig. Mae croeso i unrhyw un noddi'r daith fynydda leol neu gysylltu'n uniongyrchol tuag at Mencap Cymru.

Mae 'na weithgareddau eraill ar y gweill hefyd. Cynhelir Noson Goffi yn y Ganolfan, Porthmadog nos Wener, 4ydd o Orffennaf, a gwerthfawrogir unrhyw gyfraniad - yn gacen neu nwyddau i'w rhoi ar y bwrdd gwerthu/tombola.

Bwriedir trefu noson o grwpiau ar gyfer yr ifanc yn ystod yr Haf, ac mae Robin Siop Eifionydd, Glyn Borth a Selwyn Griffiths wrthi'n trefnu cyngerdd mawreddog ar gyfer yr Hydref er mwyn cloi'r gweithgareddau cyn i Melfyn gychwyn ar ei daith bell!

Yn wir, os ydych awydd trefnu gweithgaredd - unrhyw beth - a fyddai'n hybu'r achos, byddai Melfyn yn hynod ddiolchgar.

Dymunwn yn dda iddo ar ei antur ac ar yr un pryd ei siarsio i ddod adref yn saff!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý