大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cyffur a Chwistell Brwsel - trafodd ewthanasia
Codi cwestiwn am fywyd

Sian Elin Dafydd
yn ysgrifennu o Frwsel
Dydd Llun, Hydref 28, 2002.


Gwlad Belg yw'r ail wlad yn y byd i gyfreithloni ewthanasia ac yn ddiweddar defnyddiodd y person cyntaf yr "hawl i farw" yn gyfreithlon yma.

Penderfynodd Mario Verstraete, 39 oed, oedd yn dioddef o salwch multiple sclerosis i derfynu ei fywyd yng nghwmni naw person - yn aelodau teuluol ac yn gyfeillion - o'i amgylch yn Ghent.

Yn ôl yr adroddiad papur newydd a ddarllenais, fe yfodd ddiod oedd yn ei dawelu yna fe gafodd bigiad, sef cyffur a ymlaciodd ei gyhyrau i gyd. Roedd hwn yn atal curiad ei galon yn y pen draw.

Fe ddigwyddodd y cyfan wythnos yn union wedi i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.

Trefnu'n fanwl

Trefnodd Verstraete ei farwolaeth yn fanwl a darlledwyd rhaglen ddogfen ar VTM, sianel Ffleminaidd, am ei benderfyniadau ar y dydd penodedig.

Ond ers hynny mae gwrthwynebwyr yn cwyno ei fod wedi torri'r gyfraith ac maen nhw am erlyn y meddyg â'i cynorthwyodd.

Yn ôl y ddeddfwriaeth newydd rhaid gadael mis rhwng y cais i farw a'r weithred ei hun, y bwriad yw rhoi cyfle i'r claf newid ei feddwl.

Ond roedd Verstraete yn farw saith niwrnod union wedi i'r gyfraith ddod i rym. O ganlyniad mae'r llywodraeth yn gorfod paratoi adroddiad ar weithredu'r ddeddf newydd hon.

Yn syfrdanol, yn ôl arolwg mae tri chwarter poblogaeth Gwlad Belg o blaid ewthanasia ac ers dwy flynedd bellach cyfreithlonwyd "yr hawl i farw" yn yr Iseldiroedd.

Agwedd oddefgar
Mae gan y Swistir agwedd oddefgar tuag at y pwnc ac yn Denmarc mae gan y claf yr hawl i wrthod unrhyw driniaeth a fyddai'n ei alluogi i fyw yn hirach.

Ym Mhrydain fodd bynnag carchar am oes yw'r gosb am weithredu ewthanasia.



Ym mis Mai eleni bu farw Diane Pretty, roedd yn dioddef o salwch motor neurone ers 1999 ac wedi ei pharlysu o'i gwddf i lawr.

Roedd hi am dderbyn cymorth meddygol i derfynu ei bywyd ac ym 2000 'sgwennodd ei gwr lythyr at y prif weinidog, Tony Blair yn gofyn iddo gefnogi eu hymgyrch.

Methiant fu eu hymdrech cyfreithiol, aeth â'r achos i'r llys Ewropeaidd yn Strasbwrg ar gyfer hawliau dynol a dyfarnodd 15 barnwr o Brydain ac Ewrop yn ei herbyn.

Ond arwyddodd tua 17,000 o bobol ddeiseb ar ei safle gwe o fewn wythnos yn unig wedi'r penderfyniad.

Peri penbleth fawr
Fel arfer mae gen i farn ar ddigon o bethau ond mae'r mater o ewthanasia yn peri penbleth fawr i fi. Yn ein byd o ddewis helaeth onid yw'r hawl i derfynu'r cyfan o fewn strwythur penodedig yn rhesymol?

Cerddwch i mewn i unrhyw archfarchnad neu syrffiwch y we, mae'r dewis o sos coch, yswiriant car yn niferus, mae modd dewis ffyrdd amgen i genhedlu plant ond ym Mhrydain nid yw'r claf yn medru dewis pryd i ddweud digon yw digon yn ei ddioddefaint.

Mae ewthanasia yn bwnc dadleuol, sy'n cyffwrdd â'r moesol a'r economaidd gan fod poblogaeth Ewrop yn byw'n hyn.

Ac mae cyfreithiau "rhyddfrydol" yr Iseldiroedd a Gwlad Belg yn dechrau dylanwadu ar gyfandir pell Awstralia.

Yno mae ewthanasia yn anghyfreithlon ond mae meddyg, Philip Nitschke, yn bwriadu prynu cwch sydd wedi ei chofrestru yn yr Iseldiroedd er mwyn cynorthwyo gyda "therfynu dyngarol" tra'n hwylio arni.

Nid yw llywodraeth yr Iseldiroedd wedi cytuno hyd yn hyn. Un peth sy'n sicr, ar fôr neu ar dir, parhau fydd y trafod a'm penbleth innau.






ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy