大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Je m'appelle Sian

Sian Elin Dafydd yn mynd i wersi Ffrangeg ac yn teimlo fel plentyn yn dechrau ysgol newydd.

Dydd Llun, Hydref 8, 2001

Sian Elin Dafydd yn sgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw

"Bonjour! Comment allez-vous? Je m'appelle Elisabeth Pompée-Klein," dyma eiriau cyntaf fy athrawes Ffrangeg, rwy wedi ymuno â'i dosbarth newydd 'Pas de Panique'.

Dydw i ddim yn un sy'n dueddol o gael panig ond rhaid cyfaddef fy mod wedi teimlo ychydig fel plentyn yn dechrau ysgol newydd wrth gerdded i mewn i'w chartref yn sgwâr Leon Jacquet, yng nghanol Brwsel.

Rwy'n bwriadu dysgu Ffrangeg yn ystod fy nghyfnod yng Ngwlad Belg a dwi'n mawr obeithio y byddaf yn gallu rhegi'n huawdl iawn mewn tair iaith erbyn y flwyddyn 2002!

Mae Madame Pompée-Klein yn wraig drwsiadus a thwt fel mae'r rhan Almaenig o'i henw'n awgrymu ond mae ei hosgo a'i phryd a gwedd yn Ffrengig iawn.

Stryffaglu ieithyddol

Felly bob bore dydd Mercher mae pedwar ohonom yn cyrraedd ei chartref sy'n llawn celfi o liw hufen a sy'n chwaethus iawn am sesiwn o stryffaglu ieithyddol!

Mae'n brofiad rhyfedd treulio amser gyda chriw bychan o bobl oedd yn hollol ddieithr i fi tan yn ddiweddar, wrth gwrs un peth cyffredin i bawb yw'r ffaith ein bod ni am ddysgu Ffrangeg.

"D'accord, vous appelez-vous?" gofynnodd y Madame. Atebodd y grwp: Je m'appelle Carol, Je m'appelle Boika, Je m'appelle James a Je m'appelle Sian.

Rhyddhad, pawb wedi deall a phawb wedi gallu ateb, yn gywir!

Unedig er eu cefndiroedd
Er ein cefndiroedd a diwylliannau gwahanol mae Carol Perry a'i mab 20 oed, James o Sheffield, Bokia Tamindzic, y wraig ddistaw, swil o Sofia yn Bwlgaria sy'n edrych yn debyg i Sophia Loren ifanc, a fi yn unedig yn ein cais i gyfathrebu'n effeithiol!

Yn ystod y gwersi cychwynnol 'rwy wedi dysgu sut i gyfarch a ffarwelio â phobl yn foesgar, sut i ymddiheuro am sefyll ar droed rhywun a sut i archebu teisen pen-blwydd neu botel o cognac!

Rwy'n dueddol o ymarfer gyda'r plant, mae'r ddwy yn cael gwersi Ffrangeg yn yr ysgol ac maen nhw'n cywiro fy acen yn gyson, enghraifft berffaith arall o'r oen yn dysgu'r ddafad i bori!

Dipyn o haden
Mae aelodau'r grwp yn wahanol iawn i'w gilydd, mae Boika dawel wrthi'n dysgu Saesneg a Ffrangeg tra bo ei phlant Olivera ac Alexandra yn yr ysgol. Ar y llaw arall does dim byd distaw am Carol Perry o ogledd Lloegr. Mae'n dipyn o haden gyda'i gwallt coch byr ac mae'n gwisgo digon o aur i agor siop!

"The fashion here is awful, I expected something totally different and the mosquitos," meddai. "The food is spicey and the beer's strong too...".

Mae ei mab James sy'n chwarae snwcer i Wlad Belg hefyd wedi deall bod y cwrw'n gryf a chyfaddefodd ei fod wedi cael ambell noson o gwsg ar y seddi hir
mewn parciau ers symud i Frwsel!

Cymraes, gwraig o Fwlgaria, Ffrances a dau o ogledd Lloegr - vive la différence! 'Sgwn i beth ma' nhw'n ei feddwl o'r Galloise sy' wastad yn hwyr i'r gwersi?






ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy