大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Yn nheyrnas y deiasoriaid

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel

Dydd Llun,Hydref 14, 2002

Dysgais rywbeth syfrdanol ym mharti pen-blwydd yr hyna' yn wyth oed yn ddiweddar.

Er yr holl dechnoleg a'r astudio does neb yn y byd yn gwybod beth yn union oedd lliw croen deinosoriaid - ffaith anhygoel - o ystyried bod yr arbenigwyr yn gwybod popeth arall amdanynt!

Casgliad arbennig o ddeinosoriaid

I ddathlu'r diwrnod pwysig gwahoddodd Gwen ei ffrindiau am brynhawn i'r Musée des Sciences Naturelles ym Mrwsel i weld a rhyfeddu ar y casgliad arbennig o ddeinosoriaid sydd yno.

Roeddwn wedi trefnu bod un o dîm addysgiadol yr amgueddfa yn ein tywys o amgylch a'n cyflwyno i'r haid hynafol.

Mae yno gasgliad eang o ddeinasoriaid Iguanodon a ddarganfuwyd yn yr hen byllau glo yn Hainaut, Gwlad Belg, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd rhain yn lysieuwyr ar ddwy goes, yn pori mewn praidd ac mae'n siwr eu bod yr un mor dwp â'r gweddill ohonynt.

Scelidosaurus, Triceratops, Stegosaurus, Tyrannosaurus, enwau hir a chrand ond doedd dim byd mawreddog ynglyn â'u sgiliau ymenyddol, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn meddu ar ymennydd yr un maint ag un o'u dannedd!

Roedd y rhai anffodus yn berchen ar frên maint cneuen Ffrengig, felly does dim rhyfedd bod y trueiniaid wedi darfod o'r tir.




Bwyd a chynefin
Roedd y tywysydd yn wych ac yn Neuadd y Deinosoriaid fe ddaeth â'r cyfan yn fyw i'r plant, disgrifiodd y cyfnod, manylodd am gyrff y creaduriaid eu deiet a'u hamgylchedd a holodd yr un ar ddeg plentyn yn eiddgar amdanynt.

"Faint o wyau oedden nhw'n ddodwy ar un tro?
Ydy e'n wir fod adar yn ddisgynyddion y deinosoriaid?
Oedden nhw'n gallu cyfathrebu gyda'i gilydd?"
Synnais at eu gwybodaeth oherwydd fy anwybodaeth i!

Hefyd yn yr amgueddfa roedd 'na ddeinosoriaid robotig wedi gweld dyddiau gwell gyda phen y Brachiosaurus druan yn hongian gyda'r weiars i'w gweld yn glir wrth i'r dechnoleg ddiweddara' fethu a chynnal y cyntefig.

Ond fel teyrn milain dros y cyfan safai Tyrannosaurus Rex yn fodel-maint-cywir - doedd dim maddeuant yn ei lygaid - a diolchais i'r drefn ei fod wedi hen fynd o'r byd. Dwi wedi cwrdd â sawl anghenfil yn fy nydd ond dim tebyg i hwn!

Pa liw?

Teithiodd y fintai ben-blwydd ymlaen i grombil yr adeilad i dynnu llun o'r anifeiliad - fe'u lluniwyd yn lliwgar gan nad oes neb wrth gwrs yn gwybod beth oedd lliw eu crwyn - glas a smotiau melyn, streips porffor a choch, defnyddiwyd holl liwiau'r enfys.

Yna, ymlaen i'r gwaith difrifol - bu'r criw yn creu eu deinosoriaid o glai a chredwch fi haws dweud na gwneud! Roeddwn yn destun gwawd wrth greu iar glwc yn lle Stegosaurus siapus!

Wedi'r daith drwy'r cynfyd, y gacen siocled a'r canu aflafar daeth y parti i ben a Gwen wrth ei bodd a'i ffrindiau wedi mwynhau.

Pa liw yn wir . . .

Felly, nôl â ni i dderbynfa'r amgueddfa i gwrdd â rhieni'r plant. Sgwrsiais gyda William, bachgen o Awstralia am y prynhawn gan ofyn iddo pa liw oedd e'n feddwl oedd y deinosoriaid.

Edrychodd arnai - o 'na gwestiwn twp: "Well you know, they were probably camouflaged, most animals want to be a part of their environment, some might be like chameleons and might change their skin colour."

Ateb synhwyrol iawn gan blentyn saith oed a roddodd yr hen Siânosaurus yn ei lle!

-

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy