|
|
Blasu'r oes a fu ym Mhenfro
Rhaid bachu cyfle i ddod i oed Dydd Mawrth, Awst 14, 2001
|
Mae Sian Elin Dafydd yn cael hoe yn Sir Benfro o'i chartref newydd ym Mrwsel.
Mae 'na dalpie o hud a lledrith yn Sir Benfro, o'r tirwedd a'r hanes i'r chwedloniaeth gyfoethog ac mae hynafiaeth y pridd wedi magu beirdd a chantorion, môr-ladron a malwyr tollbyrth. Yn flynyddol, byddwn yn troi trwyn y car i gyfeiriad Pendinas ger Abergwaun er mwyn cael cyfle i flasu swyn y sir. Y traethau yw'r atyniad mwya' i'r plant. Maent wrth eu boddau yn mynd i gasglu cerrig a chregyn a sblasio yn y dwr. Bu'r pedwar ohonom ym Mhwll Gwaelod sawl gwaith. Ar y traeth cul ond prydferth hwn y ffilmiwyd rhannau o Moby Dick. Yno bu'r ddwy yn crwydro i'r pyllau dwr bach a chladdu eu hunain (a fi) mewn mynydd o dywod. 'Dyw arian ddim yn gallu prynu'r mwynhad a'r rhyddid yma i'r plant. Trip i Gastell Henllys Ar ddiwrnod mwy cymylog aethom ar drip i Gastell Henllys, bryngaer oes haearn, ger Eglwyswrw. Prynwyd y safle gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym 1991 ac fe'i ail-ddatblygwyd fel canolfan sy'n dehongli hanes a bywyd bob dydd y pentre Celtaidd. Mae archeolegwyr yn dal i gloddio yno a chaiff ymwelwyr weld y tai crwn to gwellt sydd wedi'u hail-greu. Mae modd cael syniad reit dda o fywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl wrth weld y dodrefn yn y tai crwn, y graneri, yr efail a chytiau'r anifeiliaid. Torri ar y rhamant Roedd ambell Gelt' yno'n gweithio yng Nghastell Henllys yn tywys neu'n esbonio pethau i ymwelwyr ond roedd clywed taflwr gwayw ffyrnig yn siarad gydag acen cocni neu dwy wraig yn trafod helyntion rhyw foi lleol yn torri ar y rhamant ychydig! Ta waeth roedd yr ardd berlysiau yno yn arbennig o amrywiol a nodwyd enwau'r planhigion yn Gymraeg, Lladin a Saesneg . Mae'n rhaid cyfaddef i fi gael fy nhemtio i estyn am doriad o'r ferfain, sydd yn ôl y diffiniad yn berlysieuyn sy'n medru dihuno'r nwydau a pheri swyngyfaredd. Mae'n siwr mai hwn oedd Viagra'r Celtiaid! Ond roedd atyniad Castell Henllys yn brysur iawn gyda nifer o bobl yn ymweld â'r safle wedi i'r 大象传媒 ffilmio cyfres yno yn dilyn helyntion criw yn byw eu bywydau fel tase nhw nôl yn yr Oes Haearn. Cadw'r teimlad Cymreig Mae Abergwaun ei hun yn dref hyfryd sy'n dal i gadw'r teimlad Cymreig, cynhenid. Ceir nifer o dai tafarn hanesyddol yng nghanol y dref gan gynnwys y Royal Oak lle yr arwyddwyd y cytundeb rhwng yr Arglwydd Cawdor a'r Cadfridog Tate wedi glaniad y Ffrancod ym 1797. Wrth gwrs arwres glaniad y Ffrancod oedd Jemeima Niclas ac yn ôl yr hanes arestiodd hi ddwsin o Ffrancod ar ei phen ei hun. Nid gwraig ddelicet oedd hon, roedd yn fenyw fawr oedd yn hoffi cwrw cartref a Ffrancod yn amlwg! Cofio'r glaniad Ym 1997 dathlwyd daucanmlwyddiant y glaniad ac un o'r prif atyniadau sydd yn dal i'w weld yn Abergwaun heddiw yn neuadd yr Eglwys yw'r tapestri sy'n 30 meter o hyd yn portreadu'r digwyddiadau hanesyddol. Am gyfnod, hefyd, roedd modd gweld' Jemeima a'i merched yn crwydro o amgylch y dref er mwyn dal dychymyg yr ymwelydd. Y llynedd roedd yn dipyn o olygfa i'w gweld yn eu gwisgoedd traddodiadol mewn siolau coch a hetiau duon ac yn cario ffyrch a rhawiau. Ond roedd gweld rhain yn smygu eu Regals a sgwrsio ar eu ffôns mudol yn tymheru'r darlun rhywfaint!!! Ardal arbennig Mae Sir Benfro yn ardal arbennig am sawl rheswm, mae'r lliwiau a'r golau yn hudolus, mae'r môr a'r traethau yn gyfareddol. Ond yn bwysicach falle mae 'na barch at y tir, ceir dulliau organig o ffermio mewn nifer o ardaloedd, does dim cnydau GM yno ac mae'r anifeiliad yn lôn o glwy heintus y traed a'r genau. Mawr obeithiaf na fydd y clwy yn cnoi i fewn i ben y fro.
|
|