|
|
Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi
Sian Elin Dafydd yn ymweld â thref glan môr ger yr Iseldiroedd Dydd Llun, Tachwedd 5, 2001
|
Sian Elin Dafydd yn sgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw
Fe'n magwyd mewn ardal sy'n weddol agos i'r arfordir. O amgylch Penybont-ar-Ogwr mae 'na draethau sy'n frwnt gyda'r llygredd o'r diwydiannau lleol yn sglein ar wyneb y dwr - ond mae 'na hefyd gymoedd bach cudd sy'n arwain at draethau euraid, hyfryd. Lle i feddwl ac ystyried Mae'r profiad o fynd am dro i lan y môr yn rhywbeth pwysicach i mi na'r gallu i roi un troed o flaen y llall. Dyma'r cyfnod i feddwl, i drafod ac i ystyried. Rwyf wedi gwneud penderfyniadau pwysica' fy mywyd wrth gerdded lawr y llwybr cul i draeth Nash Point neu dros hen fryn i fae Dunraven a heddiw yn wraig 36 oed rwyf wrth fy modd yn mynd i Aberogwr. Yma, dwi'n gallu gweld fy hun fel rhith o blentyn yn chwarae gyda Ruth, fy ffrind ore', yn casglu cerrig ac yn rhedeg i'r môr: yn ferch yn fy arddegau yn trafod bechgyn, bywyd a'r byd gyda Ruth a nawr dwi'n fam sy'n rhedeg ar ôl fy mhlant fy hun yn y twyni tywod cyfarwydd. Lle gwyliau soffistigedig Mae sawl wythnos wedi hen fynd ers imi weld glesni'r môr felly doedd dim amdani ond gadael Brwsel a'i throi hi am dref glan môr Knokke-Heist sy'n agos i ffin yr Iseldiroedd. Ystyrir hwn yn lle gwyliau soffistigedig gan y Belgiaid - yn dref sy'n llawn llefydd bwyta, siopau drud a galerïau bach. Ond difethwyd harddwch y lle gan y blociau o fflatiau a adeiladwyd yn un llinell hir i edrych allan dros y dwr. Dyw Knokke-Heist ddim tamaid gwell nag unrhyw dre glan môr yng Nghymru. Os rhywbeth, mae prydferthwch naturiol ein gwlad fechan yn rhagori ar yr hyn a welais yng ngogledd Gwlad Belg. Tebyg i drefi glan môr Cymru Mae Knokke yn dref lan a llewyrchus sy'n denu ymwelwyr ar hyd y flwyddyn ac mae'r tywydd yno yn debyg iawn i'r hyn sydd adre. Ond mewn trefi fel Porthcawl, Y Rhyl, Llandudno a'r Barri mae'r pwyslais ar y geiniog yn hytrach na chynnig gwasanaeth da a graenus i ymwelwyr. Pan yn blentyn, dwi'n cofio Porthcawl dan ei sang yn ystod yr haf ond mae'n stori wahanol nawr. Wedi cerdded ar hyd y promenâd hir oedd yn dilyn yr arfordir roedd awel gref Môr y Gogledd wedi codi awch am fwyd, felly cinio amdani.
Cofio Marvin Gaye Dyma ddechrau sgwrsio gyda gwraig o Ostend oedd yn rhedeg y bwyty. Y tu hwnt i'w gwaith wythnosol roedd yn canu mewn band. Soniodd am gyfnod yn ystod yr 80au cynnar pan fu'r canwr Motown, Marvin Gaye, yn byw drws nesa' iddi gyda'i gariad Eugenie Vis o'r Iseldiroedd. "Roedd Marvin yn greadur gwallgo. Byddai'n eistedd ar y traeth a dweud Hi' wrth bawb. Doedd e ddim yn gwybod beth oedd e'n ei wneud a byddai'n curo ei gariad yn ddu-las," meddai. Adroddodd hanes trist y gwr cymhleth. Bu Gaye yn byw yn Ostend am gyfnod o ddeunaw mis yn yfed yn y bariau lleol ac yn perfformio yno weithiau. Sgwennu Sexual Healing Dyma lle 'sgwennodd y gân enwog Sexual Healing ond dychwelodd i'r Unol Daleithiau pan glywodd fod ei fam yn mynd i'r ysbyty i gael llawdriniaeth. Roedd yn bwriadu dychwelyd i Wlad Belg ac wedi prynu ty heb fod nepell o'r dre. Ond ym 1984 saethwyd ef yn farw wedi cweryl rhyngddo a'i dad. Y diwrnod canlynol byddai Gaye wedi dathlu ei ben-blwydd yn 45. Bu ei fywyd yn Ostend yn rhyw fath o ddihangfa iddo ac yn fwy na hynny roedd y cyfnod mewn gwlad newydd wedi ail-ysgogi ei greadigrwydd. Wedi'r sgwrs annisgwyl a hud heli'r môr sylweddolais fod treulio amser y tu allan i fy nghynefin wedi adnewyddu fy meddylfryd bersonol ac mae'r profiad o fyw dramor yn gwneud i fi werthfawrogi yr hyn ydw i'n barod.
|
|