大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Ymweliad arbennig

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel

Dydd Llun, Mehefin 10, 2002

Gwawriodd y dydd, dydd Mercher i fod yn benodol, ac roedd fel pob diwrnod arall - mynd i lawr y grisiau i baratoi brecwast i'r plant, gwneud eu brechdanau a phacio'u bagiau, darganfod dillad glân, newid, gweiddi ar bawb a gadael y ty yn hwyr.

Ond yn ystod y prynhawn arbennig hwn byddai 'na newid i'r patrwm arferol. Roedd Heledd sydd bellach bron yn bum mlwydd oed yn ymweld â'r deintydd am y tro cyntaf.

'Dyw'r newydd yma ddim yn syfrdanol iawn ond rhaid cyfaddef fy mod wedi poeni ychydig amdani.

Gormod o sglods a siocled
Dyma'r ferch fach fyddai'n gallu byw ar ddeiet o sglods a siocled pe byddai'n cael, mae ei sgiliau trin a thrafod yn wych ac mae gyrfa ddisglair o'i blaen os fydd y nectar melys yn rhan o'r hafaliad!


Ac wrth gwrs iddi hi mae byw ym Mrwsel fel nefoedd fach gyda'r holl siopau siocled, mae hyd yn oed ffatri siocled yma a channoedd o'r cabanau bach sy'n gwerthu sglods ar gornel strydoedd y ddinas.

Felly nawr amdani wedi i sawl ffrind sôn am brofiadau gwael - clywais am nifer o blant yn cael llanw yn eu dannedd llaeth - a dim ond unwaith yr wythnos yr oedd y rhain yn cael siocled neu losin (bellach dwi'n gorfod cuddio'r melysbeth neu ei roi yn bell allan o'i chyrraedd).

Ofnais y byddai'r deintydd yn fy ngwawdio am fod yn fam wael; "Mae'r dannedd hyn yn pydru, bethmae'n bwyta siocled bob dydd". O leia' byddai hyn yn fy ngalluogi i resymu gyda'r fechan - "Dyna fe mae'r deintydd wedi dweud - dim rhagor o milci wê y bolgi bach."

Trefnu apwyntiad
Nepell o'r man dwi'n mynd iddo i wneud gwaith gwirfoddol, mae 'na ganolfan ddeintyddol Sgandinafaidd. Felly ar ôl ymweliad ysbrydoledig ag Ikea a'r ffaith bod systemau iechyd y gwledydd yma i fod yn drwyadl ac effeithiol - i fewn â fi i drefnu apwyntiad Heledd.

Wythnos yn ddiweddarach dyma ni'n cyrraedd y clinig er mwyn gweld deintydd o'r enw Frederik Lemche, fi'n chwysu chwartiau a'r ddwy yn hapus braf!

Roedd Heledd yn edrych ymlaen i gael profiad newydd a finnau'n ofni'r canlyniad ac yn cofio am y mynydd o siocled yr oedd wedi ei sglaffio.

Gwenodd y ferch yn y dderbynfa gyda'r dannedd gwyn, perffaith, arweiniwyd ni i'r man aros lle'r edrychais ar gylchgronau Sgandinafaidd a cheisiais feddwl am esgusodion.

Daeth deintydd ifanc i'n nôl, eisteddodd Heledd yn y gadair ac esboniodd am y teclynnau yr oedd am eu defnyddio.

Procio'r dannedd

Bu'n siarad gyda hi, yn tynnu ei choes a phrocio'r dannedd bach cyntaf. Trodd ata i - dyma ni - y ddedfryd - "Mae glendid ceg eich plentyn yn berffaith."

Bu bron i fi gwympo oddi ar fy sedd, nid dyma oeddwn wedi disgwyl ei glywed ac roedd fy rheswm am dorri siocled o'i deiet yn hollol ddi-werth nawr.

Felly ar ôl talu 25 ewro a chael sgwrs ddifyr am hanes Jutland a thai haf yn Nenmarc bant â ni i gyfeiriad y metro.

"Mam, fe fuais i'n ferch dda yn y deintyddalla i gael hufen ia?" holodd y fechan.

Troeson ein trwynau tuag at barlwr hufen ia Hagen Das, roedd un peth yn sicr, roedd angen siwgr arna i i ddod dros y sioc!





ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy