|
|
Brwydr y troliau cwrw
Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel Dydd Llun, Tachwed 11, 2002
|
Cefais fy sugno i mewn i dwll yn Calais yn ddiweddar, roeddwn i'n meddwl fy mod wedi cyrraedd Ffrainc ond cyrhaeddais blaned na fyddai Capten Kirk a'i griw yn falch iawn o ymweld â hi.
Ar y ffordd i'r Eurotunnel fe es am sbec i ganolfan siopa Cité Europe, mae'n lle mawr iawn yn llawn siopau amrywiol gan gynnwys yr hypermarché Carrefour. Er fy mod yn Ffrainc, dim ond Saesneg roeddwn yn ei glywed, roedd y lle dan ei sang ac yn frawychus o Brydeindod ar ei waetha. Clywais acenion de ddwyrain Lloegr yn uchel yn mhobman, cerddais o amgylch yn geg agored. Roeddwn yn Calais ond man a man fy mod mewn canolfan fawr yn Ashford, roedd y Ffrancwyr wedi ffoi ac yn eu lle roedd nifer fawr o Saeson yn prynu cwrw, gwin a cigarets. Yn gyffredinol dyw'r bobl sy'n mynd i Cité Europe i siopa ddim yn blasu'r hyn sydd gan Calais i'w gynnig fel tref. Doedden nhw ddim hyd yn oed yn ceisio efelychu'r diwylliant Gallaidd o gwbl dim ond llanw'r drol gydag alcohol. Llwytho caniau a photeli Mae'n rhaid cyfaddef eu bod nhw wedi meistroli'r grefft o lwytho caniau a photeli, roeddent yn herio rheolau disgyrchiant! Yn Carrefour ei hun roedd awyrgylch gweddol annifyr yno, gyda nifer yn rhegi wrth lanw'r trolîs trwm a chan wthio'n ddihid hebio'r plant roeddent yn rhemp ac ar frys i gyrraedd y porthladd mewn pryd. Ac yn anffodus bydd y sefyllfa'n gwaethygu gan fod y Canghellor Gordon Brown wedi cynyddu faint o alcohol mae dyn yn cael prynu dramor. Yn ôl nifer o'r papurau tabloid ym Mhrydain roedd y consesiwn yma'n fuddugoliaeth i'r dyn cyffredin ond a ydi hyn yn wir? Ar gyfartaledd telir pedair gwaith mwy o dreth ar cigarets ym Mhrydain nag yng Ngwlad Belg a chwe gwaith mwy o dreth ar gwrw na Ffrainc. Felly Mr Brown, mae'n gwneud mwy o synnwyr economaidd i'r Brit cyffredin deithio i Ffrainc i stocio'r lysh. Ond yn y pendraw a fydd hyn yn arwain at drethu uwch a phroblemau ymhlith bragdai yn arbennig y rhai bach, annibynnol (o'r rhai sydd ar ôl wrth gwrs)? Felly, tra bo llywodraethau a chyfanwerthwyr Gwlad Belg a Ffrainc yn gwneud elw go lew, mae Prydain yn colli'n ariannol eto.
Dim pleser - dim bargeinion Doedd dim byd pleserus am f'ymweliad â Cité Europe ac yn sicr doedd dim bargeinion yno i mi gan fod y gwin a'r cwrw yn ddigon rhesymol yma ym Mrwsel a chwrw o Wlad Belg yw Stella, sy'n cael ei fragu yn nref hynafol Leuven. Cafodd ei farchnata fel cwrw Ffrengig ffasiynol ym Mhrydain, yn amlwg does gan gwrw Belgaidd ddim cweit yr un panache i yfwyr gwybodus ar draws y sianel! Pan fydda' i yn teithio drwy'r twnel eto, byddaf yn osgoi'r ganolfan siopa ac yn mynd am dro i dref Calais, lle ceir marchnad ddifyr bob dydd Mercher a Sadwrn yn ôl bob tebyg.
Gobeithio bydd y 'blaned' honno yn fwy dymunol a gwaraidd, un lle na fydda' i yn ysu am weiddi "Beam me up Scottie!" Anfonwch gyfraniad o'ch rhan chi o'r byd i 大象传媒 Cymru'r Byd
|
|