大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Plismyn Brwsel
Maen nhw'n mhobman - ar geffylau, ar feiciau mynydd a beiciau modur, ar droed, mewn ceir - ac yn aml dwi'n eu gweld nhw gyda'u cwn.



Dwi'n sôn am heddlu Brwsel
Adre yn Llandaf ni fyddwn prin yn gweld heddwas ar y stryd er imi weld nifer mewn ceir yn gwibio tuag at yr orsfa heddlu yn y Tyllgoed - ond yma yn Bruxelles mae'r plismyn, yn ddynion ac yn ferched, blith-draphlith.

Dim modd dianc

Ar ddechrau'r dydd maen nhw'n cyfeirio'r traffig ar draws priffyrdd y ddinas. Gwelaf nhw'n gyson ar gefn eu ceffylau yn cadw golwg ac yn cyfarch plant sy'n mwynhau gweld eu meirch mawreddog, heb os does dim modd dianc rhagddynt.



Maen nhw'n rhan o fywyd bob dydd y ddinas ac mae 'na ddau fath, y Gendarmerie Nationale neu'r Rijkswacht fel y'u gelwir yn Ffleminaidd sy'n delio gyda'r prif achosion o dorcyfraith, rheoli torfeydd a thrafnidiaeth.

Mae'r rhain yn gwisgo lifrau glas gyda streipen goch ar y goes tra bo'r Police neu'r Politie yn delio gyda'r rhan fwyaf o bethau eraill ac yn gwisgo yr un wisg las ond gyda streipen las dywyll ar y goes i ddynodi'r gwahaniaeth.

Ond pa liw bynnag yw'r llinell maent i gyd yn arfog.

Rhuthro i lawr y metro

Un tro, fe'u gwelais yn rhuthro ar ôl dyn lawr yn y metro - roedd fel gwylio golygfa mewn ffilm.

Ar ochr arall y platfform, llwyddodd y gwr canol oed oedd yn cael ei erlid, i neidio ar gerbyd y tren tanddaearol cyn iddynt gael gafael arno.

Ymlaen â'r pedwar yn benderfynol gyda'u gwynt yn eu dwrn, roedden nhw'n gandryll. Buaswn i ddim yn hoffi bod yn ei sgidie petae e'n cael ei ddal. Un peth sy'n sicr dyw trigolion ddim yn 'chwarae' gyda phlismyn Gwlad Belg.

Honiadau o greulondeb

Mae 'na adroddiadau cyson sy'n sôn am greulondeb ar ran yr heddlu yma ac yn enwedig y driniaeth mae ffoaduriaid anghyfreithlon yn ei derbyn.

Yn ddiweddar honnodd gwr o Estonia, Priit Ojamaa sy'n gysylltiedig â Senedd Ewrop, iddo gael ei gamdrin gan yr heddlu am fethu â gallu dangos ei basport yn y fan a'r lle. Doedd ei bapurau adnabod Estonaidd ddim yn ddigon iddynt a dywed iddo gael cweir oherwydd hyn.

Mae un o bwyllgorau Cyngor Ewrop wedi beirniadu dulliau heddlu Gwlad Belg o ymdrin â mewnfudwyr anghyfeithlon, mae'r adroddiad yn hawlio eu bod nhw'n gor-ddefnyddio nwy dagrau a batonau.

Creu grwpiau gwylio

Mae'r ymdeimlad o gam dargedu mewnfudwyr hefyd yn bodoli mewn dinasoedd eraill yng Ngwlad Belg. Oherwydd yr ofnau hyn mae gwr ifanc o'r Dwyrain Canol, a anwyd yn Libanus ond sy'n byw yn Antwerp, wedi datgan ei fwriad i greu grwpiau gwylio a fydd yn cysgodi heddlu yn y ddinas.

Mae Abou Jahjah a symudodd yma yn y 90au am amddiffyn hawliau Arabiaid wrth i Antwerp geisio lleihau'r achosion o dorcyfraith.

Mae tipyn o gefnogaeth yn y ddinas i'r blaid Vlaams Blok sy'n ceisio cwtogi ar nifer y mewnfudwyr sydd yno ac eisoes mae Abou Jahjah wedi dechrau derbyn bygythiadau i'w fywyd.

Protest fawr

Ar brynhawn Sul diweddar lawr â fi gyda'r teulu i gyfeiriad y Grand Place yng nghanol y ddinas i gael paned a gwylio'r twristiaid yn tynnu lluniau di-ri o'r sgwâr hynafol.

logoWrth ddod allan o'r metro cyfagos cerddon yn syth i ganol protest fawr, lle'r oedd miloedd yn bloeddio'u gwrthdystiadau yn erbyn Bush, ei fwriadau ac unrhyw ymosodiadau ar Irac. Yn un rhibidires hir cerddodd cynrychiolwyr o fudiadau dyngarol, anarchwyr, comiwnyddion, sosialwyr a Christnogion yn gweiddi a dal baneri.

O'r golwg, ar y grisiau yn nhwnel y metro, eraill yn llechu'n ddi-daro ar gornel y strydoedd, safai grwpiau bychain o heddlu yn pwyso ar eu tarianau terfysg, yn 'smygu a sgwrsio, ac yn edrych yn dwyllodrus o .hamddenol!

Anfonwch gyfraniad o'ch rhan chi o'r byd i 大象传媒 Cymru'r Byd







ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy