大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Ar drywydd y Bachan Pisho

Bachgen bach yn pi-pi yw un o hynodion pennaf Brwsel!

Dydd Llun, Gorffennaf 9, 2001


Gair o Frwsel gan Sian Elin, yn son am ei bywyd newydd hi a'i gwr, Iolo ap Dafydd, Gohebydd Ewrop 大象传媒 Cymru.



Mae gan Copenhagen ei môr-forwyn osgeiddig.

Yn Efrog Newydd cewch weld y cerflun trawiadol o Liberty a rhaid ymweld â'r Twr Eiffel pan ym Mharis.

Ond ym Mrwsel yr hyn sydd yma yw bachgen euraid yn gwagio'r tanc'y Manneken Pis!

Felly, ar ôl treulio tri mis yma mentrais i ganol y ddinas yn unswydd i weld y gwr bach crwn.

Nwyddau o bob math

Wrth gerdded tuag at ei gartref sydd heb fod nepell o'r arhosais i fwrw golwg ar yr holl nwyddau sy'n cael eu gwerthu mewn siopau cyfagos.

I'w ddangos yn ei holl ogoniant ceir corcwyr i agor poteli gwin (defnyddiwch eich dychymyg!), pethau i agor poteli cwrw, bathodynnau, sgarffiau, llyfrau, cardiau, clustdlysau, cyfflincs a dalen-nodau (eto defnyddiwch eich dychymyg).

Diolch byth mai gonc-heb-geilliau oedd Mr Urdd - byddai Cymry yn lot rhy sidêt i'w farchnata'n debyg!

Felly wedi'r siwrnai dyma fi wrth ei draed yn barod i ryfeddu ac mae'n rhaid cyfaddef - mewn mwy nag un ffordd - roeddwn yn siomedig!

Ei amddiffyn rhag ymwelwyr

Mae Mistar Pis yn sefyll rhwng dau adeilad fel petai ar allor ddyfrllyd wedi ei amgylchynu gan ffens metal i'w amddiffyn rhag y twristiaid awchus.

Mae'r cerflun ei hun yn eitha' bach ond heb os mae'r Manneken, sydd wedi pasio cwrw yn ôl y chwedloniaeth, yn cael ei drin fel tipyn o arwr.

Pedwar cant o wisgoedd

Yn ogystal â'r nwyddau mae gan y Manneken Pis 400 o wisgoedd sydd wedi eu rhoi yn anrhegion gan bwysigion sy'n ymweld â Brwsel.

Maent yn amrywiol iawn, credwch chi fi, fe welais gant ohonynt mewn amgueddfa yn y Maison du Roi.

O Mickey Mouse i Mozart, o uchelwr Siapaneaidd i El Cid, a dwi'n dal i aros i weld y wisg Elvis!
Mae cymeriad John Bull o Loegr hefyd yn eu plith - 'sgwn i beth fyddai Cymru'n medru ei gynnig iddo - gwisg yr orsedd efallai - yn anffodus byddai'n rhy debyg i'r wisg Laurence o Arabia sydd ganddo'n barod!

Tybir iddo gael ei wisg gyntaf ym 1698 ond hanner canrif yn ddiweddarach ym 1747 rhoddodd Louis XV ddillad ysblennydd iddo fel ymddiheuriad bod ei filwyr wedi cipio'r piser bach!

Dyddiadau o bwys

Serch yr hwyl o wisgo i fyny mae 'na wedd ddifrifol i'r cyfan. Mae rhai gwisgoedd yn cyd-fynd â dyddiadau o bwys yng nghalendr militaraidd Gwlad Belg ac wrth gwrs mae cynnig gwisg i'r Manneken yn weithred symbolaidd sy'n arwydd o ewyllys da.

Mae'n rhaid i'r sawl sydd am ei wisgo ddilyn patrwm arbennig wrth dorri'r defnydd - rhaid gadael ei law chwith yn rhydd - dim menyg bellach diolch yn fawr!



Y cerflunYna, wedi ei wisgo yn y dillad newydd cynhelir rhyw seremoni fach cyn dadorchuddio'r ceriwb ffasiynol. Mae'n anhygoel fod cymaint o ddiddordeb mewn cerflun o fachgen bach sy'n cyflawni'r weithred-bob-dydd yma!

Tybir fod y ffynnon wreiddiol yno ers y Canol Oesoedd ac mae 'na amryw o straeon am gychwyn y Manneken:

Dywed rhai ei fod yn fachgen aristocrataidd coll a ddarganfuwyd pan yn gwneud pi-pi.

Dywed eraill mai gwerinwr bach yw yn ceisio diffodd rhyw dân.

Beth bynnag yw'r hanes a'r cefndir - mae'r piser bach yn boblogaidd ac yn un o gerfluniau adnabyddus Ewrop y mae'n rhaid ei weld o leia' unwaith yn tasgu dwr!





ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy