大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Rhaid bachu cyfle i ddod i oed

Dydd Llun, Gorffennaf 23, 2001

Gair o Frwsel gan Sian Elin, yn son am ei bywyd newydd hi a'i gwr, Iolo ap Dafydd, Gohebydd Ewrop 大象传媒 Cymru.


Ond yr wythnos hon mae Sian ar 'ymweliad tramor'- a Chaerdydd!


Mae'r haf ar fy mhen ac yn hytrach na hedfan i'r haul gyda'r teulu dwi'n dod nôl i Gymru gyda'r glaw yn fy mhoced.

Mae'r plant yn edrych ymlaen at weld Mamgu, Tadcu a'u ffrindiau a dwi'n edrych ymlaen at gael ambell noson allan a chysgu'n hwyr yn y bore!



Heol y Frenhines, CaerdyddYmweliad cyntaf â Chaerdydd
Roedd yr awyren adre i Gymru'n llawn ac ymhlith y teithwyr roedd nifer yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf.

Mae'n siwr eu bod wedi cael argraff reit wael.

Wedi glanio, er ein bod yn ddigon agos i gerdded i'r maes awyr fe'n gyrrwyd o amgylch y lle ddwywaith. Doedd unwaith ddim yn ddigon mae'n amlwg.

O'r diwedd fe'n corlanwyd allan o'r bws ond roedd drws y terminal wedi ei ..gloi.

Bu pawb yn aros tra bo rhywun yn dod i lawr atom gydag allwedd!

Does dim rhyfedd bod nifer y tu hwnt i Glawdd Offa yn meddwl ein bod yn dal i fyw yn oes yr arth a'r blaidd.

Prifddinas ifanca Ewrop

Wedi'r dadbacio doedd dim amdani ond mynd am dro i ganol Caerdydd a chael sbec o amgylch prifddinas ifanca' Ewrop'.

Dyma sut mae Caerdydd yn cael ei hyrwyddo gan y cyngor ac os am fathu'r term hwn beth am i'r cyngor feithrin agweddau deinamig, mentrus, arloesol ac hyderus wrth farchnata'r brifddinas.

Byddai'n braf gweld y cyngor yn meithrin agwedd ddigyfaddawd tuag at yr amgylchedd ac ailgylchu, mae'r llygredd yn ddifrifol yng Nghaerdydd ac mae sbwriel yn frith ar hyd y ddinas.

Ac wrth gwrs beth am y perl dinesig diweddara', Bae Caerdydd. Dyma hafan y gwleidyddion, rhywle i besgi ar fwyd, diod a hufen iâ a rhywle i fynd am dro pan yn dioddef hangofyr ar fore Sul.

Colli cyfle i wneud rhywbeth gwahanol

Roedd cyfle i wneud rhywbeth yn wahanol wrth ddatblygu'r Bae - dangos Cymreictod' ar ei newydd wedd.

Ond, yn anffodus, dilynwyd y patrwm Prydeinig o adeiladu un cylchdro ar ôl y llall gan ddiystyru adeiladau gwreiddiol a'r gymdeithas leol.

Beth am drafnidiaeth i'r Bae mae'n siwr bod adeiladu twnel neu ffyrdd ar gyfer tramiau yn rhy gostus neu'n rhy uchelgeisiol. Felly yr hyn sydd gennym yw mwy o draffig a mwy o dagfeydd a mwy o lygredd mewn dinas fach.

Mae'n bwysig bod swyddogion dinas Caerdydd yn cadw golwg ar Ewrop, nid Llundain a chreu rhywbeth arbennig i ni'r Cymry yng Nghaerdydd, rhywbeth fydd hefyd yn denu ymwelwyr.

Adfer hen dramiau

Mae angen cael atyniadau unigryw yma - beth am adfer y defnydd o'r tramiau, comisiynu cerfluniau trawiadol, cadw a chywiro'r adeiladau cynhenid yn lle eu taro i lawr a chynnig bwyd da a gwasanaeth effeithiol mewn siopau, caffis ac wrth gwrs yn y maes awyr.

Prin iawn yw'r tai tafarn traddodiadaol yng nghanol y ddinas mae 'na ddigon o fariau Gwyddelig ac Awstraliaidd yma mae angen newid hyn ac ail amlygu ffactorau unigryw Caerdydd.

Mae gan Cymru iaith a diwylliant gwahanol ac arbennig, a dylai Caerdydd fel prifddinas fod yn ddrych o hyn.

Cyn hir, dechreuir ar y gwaith o wneud cais pwysig i wneud Caerdydd yn Ddinas Ddiwylliant Ewrop ym 2008.

Gobeithio y bydd y brifddinas gosmopolitan hon gyda'i 320,000 o drigolion yn cael dangos i Ewrop ei bod wedi dod i oed o'r diwedd.









ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy