|
|
Diwrnod Ewropeaidd
Iolo ap Dafydd, Gohebydd Ewrop, 大象传媒 Cymru, yn sgrifennu o Frwsel.
|
Ewrop ym Mrwsel yn dymuno ei gael yn ddiwrnod o wyliau. Oedd, roedd y c'nafon bach yn mwynhau hufen iâ yn yr heulwen tra bo chi a fi'n pydru 'mlaen yn gweithio! Ers chwe blynedd mae'r prif sefydliadau Ewropeaidd wedi agor eu drysau i'r cyhoedd - a hyd yn oed yr wythnos diwethaf yn caniatau i'w dogfennau gwaith fynd o dan y chwydd-wydr - er mwyn bod yn fwy agored ac ar gael i ddinasyddion Ewrop.
Dydd Schuman "Diwrnod Ewrop da ichi." Mi roedd hi'n ddiwrnod hyfryd heulog cynnes. Yr union fath o ddiwrnod y byddai staff Comisiwn a Chyngor Gweinidogion Gydag araith Robert Schuman ym 1950 a Chytundeb Rhufain saith mlynedd wedi hynny, esgorwyd ar y Farchnad Gyffredin a'r Gymuned Ewropeaidd - a bellach heb symud modfedd da ni gyd yn byw yn yr Undeb Ewropeaidd. Ers pymtheng mlynedd mae Mai 9 yn cael ei ddathlu'n swyddogol .. a tha waeth am etholiadau Prydain a'r Eidal, clwy'r traed a'r genau na diplomyddion America yn trio swyno gwleidyddion Ewrop i dderbyn bod cynllun amddiffyn gwrth-daflegrau'n gwlad yn goblyn o syniad da ...mae ugain mil o weision sifil yn Lwcsembwrg, Strasbwrg a Brwsel yn mwynhau eu hunain. Ond druan o swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd - doedd dim diogi iddyn nhw gan fod y nawfed hefyd yn nodi chwarter canrif o fodolaeth swyddfa'r Comisiwn ym mhrif-ddinas Cymru. Y cyhoedd yn holi. O ran tegwch cafwyd y diwrnod agored yn daclus ddigon ar Fai 5 ac yn anhygoel roedd pobl o Ffrainc, yr Almaen a'r Iseldiroedd wedi teithio i Frwsel i weld y Senedd ac phencadlysoedd y Comisiwn a Chyngor y Gweinidogion. Roedd hyd yn oed llanc o Benmachno - Dei Cop i'w ffrindiau - wedi taro'i mewn gyda'i wraig o Wyddeles i gael gweld "be ydy Ewrop". Ei sylw nesaf oedd pa mor fawr a pha mor gostus yw'r fiwrocratiaeth! Ond roedd yn ddiddorol sylwi fod miloedd o bobl Brwsel - yn Ffleminwyr (yn siarad Iseldireg) a Walwniaid (yn siarad Walwneg , ond Ffrangeg yn bennaf) wedi tyrru i strydoedd ardal Schuman (ie yr un dyn!) o Frwsel a faint o blant a phobl ifanc oedd a diddordeb yn y sustem o lywodraethu. Difaterwch neu fod yn negyddol? Yn wahanol i weddill Ewrop - ar wahan i wledydd Llychlyn - mae gwleidyddion a'r cyfryngau Prydeinig yn parhau i holi pa mor gmwys a beth ydy gwerth bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, heb son am undod ariannol a'r Ewro. Yn barod, mae argoelion mai fel pwnc negyddol y bydd "Ewrop" yn cael ei godi yn yr ymgyrch etholiadaol. Eisioes mae Robin Cook wedi datgan fod Ewrop yn uchel ar agenda drafod y gwahanol bleidiau hyd at ddiwrnod yr etholiad ar Fehefin 7. Ynghanol sosialwyr yn Berlin dywedodd y byddai llywodreath Lafur newydd yn closio at wledydd Ewrop. Gweld hynny mae'r Toriaid fel cam arall at Ewrop ffederal, yn enwedig wedi sylwadau'r Canghellor Gerhard Schroeder yn ddiweddar, a hyd yn oed Arlywydd Ffrainc Jaques Chirac ym Mharis ddoe. Yghanol yr oriau a'r dyddiau agoriadol o'r ymgyrch etholiadol, mae'r Ceidwadwyr yn trio waldio Tony Blair gyda'i fwriad i ymuno a'r Ewro a chladdu'r bunt (er bydd refferendwm i setlo hynny i gael barn yr etholwyr) a'i osgo braidd yn annifyr wrth ddelio â chynllun gwrth-daflegrau George W Bush. Mae is-ysgrifenydion gwladol America a diplomyddion radd yn is na'r cynghorwyr pennaf, ar daith o amgylch Ewrop, ac Asia, yn ceisio mesur maint - neu ddiffyg maint - y gefnogaeth i'r syniad o gynllun chwythu bomiau i fyny yn y gofod. Ewrofarometr y Comisiwn Sy'n dod a i'n dwt at glamp o adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf ac yn dangosyn boenus o amlwg faint o ddiffyg gwybodaeth ac amheuaeth sy'n bodoli am y syniad o uniad Ewropeaidd. Dyma rai ystadegau o Brydain a ddarganfu pôl piniwn y comisiwn: - 55% ddim yn teimlo'n agos i Ewrop (41% yn teimlo felly), - 62% yn teimlo'n Brydeinig ac nid Ewropeaidd (27% yn teimlo'n Brydeinig ac yn Ewropeaidd), - 23% yn teimlo bod yn aelod o'r UE yn beth gwael (28% o blaid) a - 41% yn credu nad oedd unrhyw fudd yn dod i Brydain trwy fod yn aelod o'r Undeb (30% credu bod na les), a bod - 63 % yn erbyn yr Ewro (21% o blaid).
Ma na filoedd o ffigurau eraill ond falle gwell gorffen gyda datganiad gobeithiol aelod seneddol Ewropeaidd Cymreig, Glenys Kinnock, i'r wasg neithiwr. Ar ol gofyn i holl awdurdodau lleol Cymru chwifio'r faner las a'r sêr melyn i nodi'r achlysur, mae'n dyfynnu bod 155,000 o swyddi yn ddibynnol ar fod yn rhan o Ewrop, bod £1.2 biliwn o arian Amcan Un ar y ffordd a bod dros hanner canrif o heddwch cymharol wedi ei fwynhau yn Ewrop ers araith Robert Schuman.
|
|