大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Baner Ewrop Partis - a baw cwn - yn y stryd
A chyfle i ddod i adnabod yr Euro

Dydd Llun, Mai 28, 2001

- Mae Iolo ap Dafydd newydd gychwyn tymor yn ohebydd 大象传媒 Cymru ym Mrwsel.
- Dyma drydedd erthygl ei briod, Sian Elin, yn sôn am fywyd yn eu cynefin newydd.


Bywyd ar y stryd newydd
Mae'r haf wedi cyrraedd Brwsel o'r diwedd a dyma gyfnod y partïon, y barbeciws a'r llymeitian hwyr y nos.

Ryn ni wedi symud i dy yn ardal Etterbeek ac eisoes mae 'na barti mawr wedi bod ar Rue Gérard.

Mae hwn yn achlysur blynyddol o bwys, mae'r stryd yn cael ei chau ac mae'n rhaid symud pob car oddi arni tra bo'r trefnwyr yn codi pabell fwyd, llwyfan i'r gig a wal ddringo i'r rhai mentrus.

Mae'n rhaid cyfaddef fy mod wedi cyffroi'n llwyr gan nad ydw erioed wedi bod i barti stryd, - o na, doedd dim parti Jiwbili i fi a dwi'n cofio Mam yn penderfynu gadael y wlad pan briododd yr hen Carlo a Diana.

Felly dyma fy nghyfle!

Cychwynnwyd ar y hwyl gyda pherfformiad gan gonsuriwr dawnus a lwyddodd i lyncu tân, diddanu plant a'u rhieni yn dair-ieithog a chanu utgorn mawr yn ddiymdrech. Dylai S4C gynnig cyfres iddo yn wir!

Delio â'r Euro ac undod ariannol
Er mwyn cadw'r cyfan yn gartrefol roedd un o drigolion y stryd wedi agor bar yn ei ystafell ffrynt ac yn lle prisio'r diodydd mewn Franc Belgaidd - fe'u prisiwyd nhw mewn Euro'.

Credwch fi, nid peth hawdd iawn yw cyfri gwerth cwrw mewn Euro ar ôl cael ambell stella! Mae gwledydd Ewrop wrthi'n brysur yn paratoi am ddyfodiad yr arian newydd tra bo Prydain yn dal i grafu i gadw gafael ar y bunt.

Mewn siopau ar hyd a lled Brwsel mae'r prisiau am nwyddau amrywiol wedi eu nodi mewn Ffranc ac mewn Euro.

Rhoddir gwerth nwyddau mewn Franc yn gyntaf yna'r Euro ond ym mis Medi yr hydref bydd y pwyslais yn newid er mwyn arwain at yr undod ariannol fydd ar ddechrau 2002.

Felly y flwyddyn nesa bydd teithwyr o Gymru fydd yn heidio i Sbaen, yr Eidal a Ffrainc ar eu gwyliau yn gorfod anghofio am y Peseta, Lira a'r Franc ac yn gorfod trin ag arian newydd Ewrop.

Cael gwared ar gwn rhech

Fel sawl dinas yn Ewrop, gan gynnwys Caerdydd, mae 'na faw ci ymhobman ym Mrwsel, ar balmentydd ac yn y parciau a bob tro dwi'n agor y drws ffrynt mae'r ifanca' yn llwyddo i roi ei throed mewn rhywbeth annymunol.

Buaswn wrth fy modd yn cael mynd ar raglen deledu Room 101 ac un o'r pethau cyntaf fyddai'n cael mynd i'r bin bondigrybwyll fyddai cwn rhech sef cwm bach di-nod fel Yorkshire terriers neu poodles.

Ac ar ôl ei hymddangosiad enwog ar y rhaglen dyma gwestiwn addas iawn i Anne Robinson: Os yw Cymry mor ddiwerth beth yw pwrpas y cwn rhech yma?!'


Mae gwragedd ym Mrwsel yn cario'r cwn bach mewn basgedi couture pwrpasol, maent yn cael eu trin fel babis.

Ar gornel Rue Gérard mae 'na salon arbennig sy'n cynnig triniaethau amrywiol ar eu cyfer a dwi a'r plant yn treulio amser yn gwylio'r cwn yn cael manicure, pedicure a coiffure, mae'n rhaid cyfaddef fy mod ychydig yn genfigennus ac mae bywyd fel poodle yn dechrau apelio!

Ond yn ôl i'r parti ar Rue Gérard, gyda'r plant yn cysgu'n dawel a fi bellach wedi crogi o'r wal ddringo ond wedi deall gwerth yr Euro aeth yr hwyl ymlaen tan yr hwyr gyda digon o ganu, dawnsio, ac ambell Stella arall!

Ond wrth gwrs roedd cerddoriaeth Abba yn swnio'n well pan oeddwn i'n sefyll yn y babell gwrw yn hytrach na gorwedd yn y gwely!





ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy