Erthygl arall gan Sian Elin, yn son am ei bywyd newydd hi a'i gwr, Iolo ap Dafydd, Gohebydd Ewrop 大象传媒 Cymru, ym Mrwsel
Teithio, gwasanaeth rhad a'r gobaith o gadw reiat Mae'n rhaid cyfaddef fy mod wedi cael pwl o hiraeth i weld teulu a ffrindiau yn ddiweddar, felly doedd dim amdani ond pacio bag ac estyn am y pasport. Gan mai penwythnos yn unig oedd gen i, byddai'n ddelfrydol hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd felly dyma ddechrau ar y gwaith o holi am brisiau tocynnau i Gaerdydd a Bryste. A'r canlyniad roedd pris y ffleit yn ddrutach i Gaerdydd ac roedd llai o awyrennau yn teithio'n ddyddiol o Frwsel yno felly dyma droi at Faes Awyr Bryste. Roedd y teithio yn fwy cyson a'r prisiau'n rhatach - felly Bryste amdani! Dagrau'r plant Wrth ddweud fy ffarwel roedd dagrau'r plant yn gwmwl o euogrwydd dros fy mhen. "Mam paid â mynd pryd wyt ti'n dod nôl? ti YN dod nôl?" "Ydw wrth gwrs byddai nôl cyn pen dim!" "Beth wyt ti'n mynd i wneud hebddo ni?" (Mmm joio, cael gwydraid o win, cysgu'n hwyr, dim sychu penolau, malu awyr gyda ffrindiau, trio cadw reiat) "Eich colli chi'n ofnadwy wrth gwrs!" "Oce - cei di fynd ond cofia ddod ag anrheg nôl i ni." Grêt - pwy faga blant? Bargeinion diri Wedi pasio drwy'r mannau angenrheidiol heb gael fy holi neu fy amau - mae edrych yn betrusgar mewn maes awyr yn wendid - dyma fi'n setlo ar yr awyren. Dechreuais feddwl am y cwmniau sy'n cynnig gwasanaeth rhad, cwmnïau fel Go, Ryanair ac Easyjet. Mae'r Gwyddel Michael O'Leary sy'n berchen ar gwmni Ryanair wedi agor swyddfa yn Charleroi sydd tua 40 km y tu allan i Frwsel ac mae bargeinion diri i'w cael. Ydi'r teithiwr cyffredin yn mynd i dalu £500 i deithio ar awyrennau BA neu Lufthansa, neu £200 i deithio ar ffleits-dim-ffrils Ryanair. Mae athrawes yn ysgol y plant wedi hedfan i Glasgow o Charleroi am £5 ar Ryanair!! Pris galwyn o betrol! Yn aml mae'r cwmnïau yma yn defnyddio meysydd awyr llai blaenllaw, er enghraifft hedfanodd yr athrawes i Prestwick ger Glasgow ac mae ffleit Ryanair i Baris yn glanio yn Beauvais sydd tua 80 km i'r gogledd o'r brifddinas. Ond mae teithwyr yn cael cynnig mynd ar fws arbennig sydd yn mynd â nhw i ganol y brifddinas. Hawdd a rhad! Mae cwmni Go wedi agor desg ym maes awyr Bryste dyma ffactor sy'n siwr o ddenu nifer yno gan gynnwys Cymry o'r de a'r gororau mae Bryste yn elwa tra bo Caerdydd yn colli. Trenau effeithiol a chyflym Cystadleuaeth fwya' y cwmnïau yma yw'r trenau intercity, mae teithio ar drên yn Ffrainc, yr Eidal a'r Almaen yn rhad, effeithiol a chyflym. Tan tua phum mlynedd yn ôl roedd teithio rhad o fewn Ewrop yn golygu 'pecynnau gwyliau' gyda phawb yn cael eu gwagu i gorlan gyfyng a'u trin fel defaid. Ond, bellach, gyda gwasanaeth cwmnïau fel Easyjet - sydd gyda llaw yn derbyn dros 90% o'r trefniadau dros y we, sef yr ucha' yn y diwydiant - mae rhyddid gan y defnyddiwr i greu pecynnau unigol wedi'u teilwrio'n arbennig i ofynion y teithiwr. Mae hyn yn rhywbeth sy'n ddeniadol i bob oedran mae Dad hyd yn oed yn giamstar ar drefnu teithiau dros y we! Wedi taith tua 50 munud, glaniodd yr awyren a byddwch yn falch o glywed nad oeddwn am ddilyn arferion y Pab a chusanu'r ddaear falle yng Nghaerdydd ond yn sicr ddim ym Mryste! Hedfanodd y penwythnos, gwelais ffrindiau, cymdogion a theulu a chefais ambell wydred o win ond yn lle cadw reiat, chwynais yr ardd. Henaint ni ddaw ei hunan. Enwogion Belg Gyda llaw dwi'n dal i geisio darganfod pwy yn union yw deg mab/merch enwoca' Gwlad Belg - oes rhywun yn gallu fy helpu? Oes rhaid iddynt fod yn gig a gwaed neu a ydi Hercule Poirot a Tintin yn cyfri??!!
|