大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Plant pobl eraill

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw.

Dydd Llun, Ionawr 28, 2002

Plant pobl eraill - dyma frîd rhyfedd ynte?

Mae nhw i'w gweld mor foesgar yn ystod oriau ysgol - ac yn bethau bach digon diniwed gyda'u rhieni - ond ar iddynt gyrraedd chez Dafydd mae'r diafol bach coch yn ymddangos gan gorddi'r plant a dechrau chwarae ei gastiau dwl!

Y brodyr drws nesaf

Yn ddiweddar mae rhibidirês o blant wedi bod yma yn chwarae gyda'r ddwy - yn gyntaf daeth y brodyr sy'n byw drws nesa'.

Malwyd y gêm Connect 4 a thaflwyd y darnau bach crwn coch a glas ar hyd y lle.

Bu'r ddau yn ymladd ac yn gweiddi a dienyddiwyd Barbies y merched - camgymeriad mawr ar ran y ddau frawd achos byddai unrhyw beth ond tynnu pennau'r Barbies wedi cael maddeuant.

Dyna ddiwedd ar bethau a minnau yn dechrau teimlo fel Kofi Annan!

Llwyddodd y merched i ddweud wrthynt yn eu Ffrangeg gorau am fynd adre'!

Bellach, wedi'r erchyllterau a ddioddefwyd gan y doliau hirgoes, gwalltog, mae'r ddwy wedi datgan yn ddiflewyn ar dafod nad yw ein cymdogion bach yn cael mynd yn agos i'w hystafell wely.

Chwiorydd y malwod

Y nesa' i ymweld â Rue Gerard oedd ffrindiau ysgol sydd hefyd yn digwydd bod yn ddwy chwaer.

Llwyddodd yr hynaf ohonynt i gasglu holl falwod yr ardd ac ambell fwydyn, eu cuddio mewn ymbarél a chynnig lloches iddynt yn fy nhy glân.

Does gen i ddim byd yn erbyn malwod - maen nhw'n gallu bod yn reit flasus gydag ambell ewyn garlleg - ond mae'n well gen i nhw o lawer pan fo nhw'n aros yn eu cynefin!

'Dyw gweld yr ôl arian ar hyd eich cadeiriau ddim yn rhywbeth sy'n eu hanwylo yn eich golwg a does dim hwyl 'chwaith mewn darganfod cragen wâg a fflemsan werdd yn eich llofft!

Adeg cinio penderfynodd yr ymwelwyr eu bod am gael picnic yn yr ardd ac er nad dyma'r adeg i fwynhau pryd alfresco ym Mrwsel roedd y syniad wedi cydio.

Dangosodd pedair merch fach eu sgiliau rhesymu ardderchog ac wedi lobïo hir a chaled bu cyfaddawdu a chafwyd gwledd o fath yn y ty bach twt yng nghanol y lolfa.

Ar i fyny

Dringwraig o fri oedd y nesa' i ddod atom. Roedd ei mam yn dioddef o'r ffliw a'r system wresogi yn eu ty wedi torri .

Ar ddiwedd diwrnod ysgol ar ryw brynhawn dydd Mawrth di-nôd daeth Victoria nôl i dreulio'r nos fel cath fach ar goll a nodyn yn esbonio'r sefyllfa yn ei bag.

Wedi gwylio'r teledu, cael swper a gorffen eu gwaith cartref, aeth y tair i'r bath (popeth yn iawn tan hyn).

Ar ôl chwarter awr roedd mwy o ddwr ar lawr y folchfa nac yn y bath ei hun!

Roeddynt wedi golchi'r hwyaid plastig melyn gyda fy hoff siampw a gwagio'r hufen corff hyfryd a gefais yn anrheg Dolig a'i ddefnyddio i lanhau'r teils uwchben y baddon.

Wedi hyn y dechreuodd y dringo gyda'r gath fechan yn troi'n llewpard mentrus gan esgyn i fannau peryglus ac i dyllau cyfrin ar ben grisiau serth.

Roedd yn dal i ddringo am ddeg o'r gloch y noson honno i ben cypyrddau uchel y ty - rhaid cyfaddef er ei bod yn gariad o ferch roeddwn yn falch o ffarwelio â hi yn y bore a gweddiais y byddai ganddynt wres yn y ty!

Fy mhlant i . . .

Ond dyna ni, pethau bach digon cymdeithasol yw plant, ac rwy'n mawr obeithio bod Gwen a Heledd yn ymddwyn yn gall pan yn ymweld â chartrefi eu ffrindiau.

Rhyfedd felly, pan yw'n amser eu casglu, fod y mamau yn gwenu gyda rhyddhad wrth ffarwelio â nhw ac yn sychu'r chwys o'u talcen.

Gwyn y gwêl mae'n siwr....




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy