大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Cyfrif bendithion

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel

Dydd Llun, Mai 6, 2002

Colli ffrind ac ymweliad ag ysbyty
Mae pawb yn teimlo'n flin drostyn nhw'u hunain weithiau gormod o waith a dim digon o amser, colli cyfleoedd, amser y mis, gwyliau gwlyb a sylweddoli nad oes gobaith ennill y loteri, byth.

Dyma'r natur ddynol - ond fe ges i ysgytwad bach yn ddiweddar sydd wedi f'atgoffa fod angen dympio'r hunan dosturi.

Daeth criw o ffrindiau draw i Frwsel i aros am benwythnos ac ar ôl tridie o chwerthin, bwyta a chadw trefn ar yr holl blant roedd y ty'n teimlo'n wag.

Oherwydd yr ymweliad roedd mynyddoedd o ddillad gwely yn aros i gael eu concro a'u golchi ac yn waeth na hynny penderfynodd y teledu roi'r gorau iddi.

Cysgais gan feddwl digon i'r dydd
Ond na, ar ôl bod â'r plant i'r ysgol canodd y ffôn am y tro cyntaf.

Galwad ffôn

Gaby oedd yno, yn dweud ei bod hi a'i theulu, sydd wedi byw ym Mrwsel am flwyddyn, yn symud i Frankfurt mewn mis.

Mae ein plant yn chwarae'n gyson gyda'i gilydd. Marlies, merch fach Gaby, yw ffrind gorau Heledd.

Dwi wedi treulio sawl prynhawn yn ei chwmni yn malu awyr, yfed te a bwyta strudel (mae hi'n dod o Awstria ac mae'r cacennau mae'n eu coginio yn anhygoel.)

Mae 'na lot o fynd a dod mewn dinas fel Brwsel ac yn aml ar ôl treulio amser yn meithrin perthynas, mae 'na symud a gadael.

Ond dyna ni, rhaid bwrw ymlaen a chyda digon o ddillad i'w smwddio ac heb sianel deledu wachul Rai Uno i gadw cwmni imi canodd y ffôn yr eildro.

Wedi brifo yn yr ysgol

Ysgrifenyddes yr yn gofyn imi ddod i nôl Gwen yn syth gan ei bod wedi syrthio ar yr iard, torri ei gwefus, taro ei thrwyn a'i phen . . .




ambiwlansRhuthrwyd bachgen i mewn ar wely. Roedd yn waed i gyd, wedi bod mewn damwain. Dwi'n amau os aeth e adre y noson honno.

Ar ôl profiad tebyg mae'r cyfan arall o bethau bach bywyd yn ddibwys.

Roedd Gwen wedi'i briwio ond yn iawn ac yn iach ac o fewn dyddie roedd fel deryn bach eto yn benderfynol o fynd â'r lluniau o'i phen i'r ysgol i'w dangos i'w ffrindiau.

Roedd y cyfan wedi trwsio - gan gynnwys y teledu!




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy