大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Grand Palace Dechrau byw - ym Mrwsel

Mae Iolo ap Dafydd newydd gychwyn ar ei dymor fel gohebydd 大象传媒 Cymru ym Mrwsel. Yma mae ei briod, Sian Elin, yn son am ddechrau byw mewn dinas newydd

Ychydig dros wythnos yn ôl ar brynhawn braf, yr oedd y pedwar ohonom ym Maes Awyr Rhyngwladol Cymru.

Fi, fe, yr hyna' sy'n chwech, a'r babi tair oed, sef bos y teulu.

Roedd pawb yn flinedig ac yn flin - y plant oherwydd ei bod yn ddiwedd tymor arnynt - a ni oherwydd y pacio, y paratoi a'r pethau gwr-a-gwraigaidd arferol!

Dweud ein bod yn ddewr
Am wythnosau bu teulu a chydnabod yn dweud wrtha i ein bod yn ddewr yn symud i ffwrdd i Frwsel - ie, Brwsel nid Azerbaijan.

Roedd fy mamgu fel rhyw oracl o anobaith ond wrth gwrs mae ganddi farn ar bopeth ac yn byw yn yr ardal gosmopolitan iawn yn Cwmtwrch Ucha, Cwmllynfell.

Ond weithiau maen rhaid trio rhywbeth gwahanol does? Felly wrth ddringon uwch dyma'r hyna yn dechrau holi cwestiynau mawr y byd fel:

-"Lle yn union oedd y nefoedd?"
"Mae draw fana ar y chwith dwin credu."

-Ac a fyddai modd "gweld Duw cyn bo hir gan ein bo mor uchel?"
"Mmm, falle."

Dysgu iaith newydd

'Roedd nifer o bethau yn fflachio drwy fy meddwl - fe fydd patwrm arferol y plant yn newid a bydd y ddwy yn mynd i ysgol Brydeinig lle byddant yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg.

Ond byddant hefyd yn derbyn pedair gwers yr wythnos o Ffrangeg.

A fydd hyn yn lliwio eu hagwedddau pan yn hynach ac yn eu gwneud yn fwy rhyngwladol na Chymreig?

Ydw i'n mynd i setlo ym mhrifddinas answyddogol Ewrop?
Rwy'n agos iawn at nifer o bobl adre - yn hoffi eu cwmnin gyson - a fyddain unig?

Ta waeth o fewn cwta awr ar yr awyren roedden ni wedi glanio yn ein cartref newydd am y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y ddwy yn prifio yma, yn dysgu trydedd iaith, yn cwrdd â phlant o bob cwr o'r byd ac yn cael profiadau newydd a gwahanol.

'Yn union fel Caerdydd'

Wrth wibio mewn tacsi o'r maes awyr tuag at ein cartre-dros-dro ar Rue de Florence yn ardal Louise o'r ddinas penderfynodd yr hyna' fod Brwsel "yn union fel Caerdydd."

Mae'n siwr ei bod hi wedi disgwyl glanio yn rhywle fel y Costa del Sol - neu Borthcawl, o leiaf!

Ond mae wythnos o wyliau Pasg nes i'r plant ddechrau yn eu hysgol newydd felly mae'n rhaid eu diddanu, gwlad newydd neu beidio.

Felly, bant a ni am dro i weld ambell leoliad. Mae sgwar trawiadol y Grand Place sy'n gerdyn-post-o-adnabyddus yn werth ei weld gyda'i bensaerniaeth hynod.



Hotel de VilleMae adeilad gothig neuadd y dre, yr Hotel de Ville, a thai yr urddau sy'n dyddio nôl i'r ail ganrif ar bymtheg yn galon i'r hen ddinas gyda'r farchnad flodau, twristiaid a'r cafe bars.

Mae rhaniad traddodiadol rhwng y rhan ucha a'r rhan isa' o'r hen ddinas yn dal i fod yn amlwg.

Yn yr unfed ganrif ar ddeg roedd brenhinoedd ac aristocratiaid o dras Ffrengig yn byw yn yr uchafion ac yn cadw llygad barcud ar y gweithwyr a'r siopwyr Fflemeg islaw.

Mewn dwy iaith

Mae'r ddeuoliaeth yma hefyd yn amlygu ei hun gyda pholisi iaith y ddinas.

Brwsel yw unig ranbarth sywddogol gwlad Belg sy'n ddwyieithog.

Mae hawliau ieithyddol y Walloons sy'n siarad Ffrangeg a'r Ffleminiaid sy'n siarad Fflemineg yn hollol gydradd, mae'r arwyddion ffyrdd, cynhwysion sydd ar becynnau bwydydd amrywiol, y wybodaeth ar y metro yn y ddwy iaith.

Ydy'r math yma o feddylfryd yn bosib yng Nghymru? Fe fyddai'n rhy gostus neu'n ormod o drafferth mae'n siwr.

Y llwyd a'r lliwgar

Mae pensaerniaeth y ddinas yn gymysgedd o'r llwyd a'r lliwgar, ar un llaw ceir adeiladau modern y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel a'r Comisiwn lle mae'r traffig yn drwm ac mae'r gwaith adeiladu yn barhaus.

Ar y llaw arall, tua deng munud i ffwrdd o chwarter yr Undeb, mae Parc du Cinquantenaire gyda'r arch drawiadol a adeiladwyd gan Leopold II.

Crwydro Ewrop mewn munudau

Ymlaen a ni yn y glaw a'r cenllysg (mae'n help i ni deimlo'n gartrefol o leiaf) i Mini-Europe, rhyw fath o barc thema yng nghysgod yr Atomium, y peli boliog arian a adeiladwyd ym Mrwsel ar gyfer Expo '58.

Roedd y plant wrth eu boddau yn gweld dros gant o fodelau o adeiladau adnabyddus o'r pymtheg o fewn yr Uned Ewropeaidd wedi'u hadeiladu ar raddfa 1/25.

Cerddwyd o amgych Ewrop yn reit gyflym yn y glaw a gwelwyd yr Arc de Triomphe, cei lliwgar Porto, y Plaza de Toros yn Seville a'r Acropolis yn Athen o fewn herc, cam a naid.

Roedd teuluoedd yno o bob rhan o Ewrop ac roedd 'na drafod a son am yr adeiladau neu'r henebion - ffordd wych o gyflwyno mannau a gwybodaeth i'r plant a ffordd dda i gael syniadau am wyliau bach neu benwythnos rydd!

Estyn am y gwin coch

Nid wyf yn yrrwr petrusgar ond mae'n rhaid cyfaddef fod gyrru ym Mrwsel yn peri i fi estyn am y gwin coch.

Nid ydynt yn malio botwm corn am hawliau'r dyn syn ceisio croesi ffordd ac wrth gamu allan rhaid bod yn barod i ffoi.

Mae 'na ddiffyg dangos-eich-bod-yn-troi ond dyna fe, rhaid anghofio am y ceir a'r gyrru, dyma baradwys i addolwyr siocled, bwyd a chwrw, a siopau.

Mae'r ffrindiau yn trefnu eu hymweliadau'n barod - gydag ymbarel wrth gwrs!




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy