大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Addunedau 2002

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw.

Dydd Llun, Ionawr 14, 2002

Mae'r flwyddyn newydd wedi llithro i mewn drwy'r drws cefn yn ddigon tawel a di-nod ac efallai mai dyma'r ffordd orau i'w chyfarch.

Felly dyma fi ar ddechrau Ionawr fel rhyw Janus ddauwynebog gydag un llygad ar y gorffennol ac un ar y dyfodol.

Bu 2001 yn flwyddyn fythgofiadwy am sawl rheswm: tyrau Efrog Newydd yn syrthio'n ddidrugaredd, marwolaeth fy nhad yng nghyfraith wedi afiechyd creulon, gorffen fy ngwaith yng Nghaerdydd a symud gyda'r teulu i Frwsel.

Roedd yn flwyddyn fawr i'r byd ac i fi'n bersonol a 'sgwn i beth ddaw i'm rhan eleni?

Dydw i ddim yn un sy'n gwneud llu o addunedau ar ddechrau blwyddyn ond mae angen gweithredu ym 2002 a chael gwared o rai o'r hen arferion yna!

Felly dyma'r amcanion diweddara':

1) Cael rhyw fath o fywyd cymdeithasol

Dwi wedi blino ar fod yn dacsi sy'n hebrwng y merched i'w partïon a'u sesiynau chwarae mewn tai ffrindiau amrywiol. O'i gymharu â nhw does dim bywyd cymdeithasol gen i, uchafbwynt pob wythnos yw cael gwydraid o win a ffonio ffrind!

Dwi am ffarwelio gyda'r dyddiau diffaith yma er mwyn arbed unrhyw sgiliau cymdeithasol sydd gen i. Dim rhagor o wylio canu fado ar deledu Portiwgal i fi yn hwyr ar nos Fawrth!

2) Peidio prynu mwy o sgidie

Dwi'n cyfaddef, mae gen i wendid - ac mae nifer o ferched yn dioddef o'r un gwendid credwch chi fi - sgidie.

Byddai'r gwr yn dweud fy mod yn gaeth iddynt a mod i'n addoli ar yr allor maint 4.

Ond mae'r crefu yma yn fy ngwaed, rhyw fympwy enynnol - yn ôl mam roedd mamgu, menyw gall ym mhob achos bron yn colli arni hi hun mewn siop sgidiau.

Dwi ddim am brynu rhagor o sgidiau a'u cuddio yng nghefn y cwpwrdd, yna eu gwisgo mewn wythnos neu ddwy a gwadu eu newydd-deb. Ta waeth does gen i ddim unman i'w gwisgo (gweler pwynt 1).

3) Bod yn fwy disgybledig gyda'r plant


Ar hyn o bryd yr ieuenga' yn y teulu yw'r bos ac mae hi fel rhyw unben bach pedair oed yn rheoli.

Yn ystod gwyliau'r Nadolig cefais fy mygwth ganddi"os nad wyt ti yn gadael i fi gael mwy o siocled dwi'n mynd i ddweud wrth bawb am " (nodwedd gorfforol sydd gen i!).
Dywedwyd hyn o flaen gwesteion yn nhy fy rhieni oedd yn bobl rhy foesgar i holi dim byd pellach.

Dim rhagor o baentio ewinedd a minlliw i'r hyna' a dwi'n bwriadu eu cael yn y gwely bob nos erbyn 8 o'r gloch heb waeddi arnynt!

4) Peidio codi cywilydd ar y plant

Dwi'n peri embaras mawr i'r plant - dwi'n canu'n rhy aml ("mae gen ti lais fel bran"), dydw i ddim yn gwybod beth yw enwau aelodau'r grwp S Club 7, rwy'n dwyn eu clips gwallt ac yn holi gormod am eu dyddiau yn yr ysgol, "O mam paid â bod mor boooooooring, dwi ddim ishe siarad am yr ysgol".

5) Mwynhau'r foment

Dyma'r adduned bwysica' efallai ac ym mwrlwm bywyd bob dydd mae'n hawdd anghofio pwysigrwydd y presennol - achos heb y presennol fyddai 'na ddim dyfodol.

Mae'n anhepgor ein bod yn edrych ymlaen, rydyn yn cynilo a'r gyfer y dyfodol, yn buddsoddi ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac edrychwn ymlaen at y gwyliau nesa'.

Ond beth yw pwrpas hyn i gyd os nad ydyn yn fodlon gyda heddiw a nawr?

Mae llynedd wedi dangos i fi nad oes sicrwydd ynglyn â'r dyfodol. Pwy a wyr beth fydd yn digwydd 2002 - y flwyddyn i fwynhau a gwerthfawrogi'r foment.








ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy