大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Meddwi ar harddwch Brugge

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw

Dydd Llun, Rhagfyr 10, 2001

Dinas na all Caerdydd gystadlu a'i balchder a'i diwylliant!

Wedi treulio saith mis yn byw yng Ngwlad Belg roedd yn hen bryd imi ymweld âr ddinas ganoloesol a ystyrir y brydfertha yn y rhanbarth.


Mae 'Brugge' yng ngogledd orllewin y wlad ac yn adnabyddus drwy Ewrop fel dinas sy'n llawn diwylliant, celfyddyd hen a chyfoes gyda golygfeydd cerdyn post godidog.

Mae'n amlwg bod awdurdodau Bruges yn buddsoddi llawer o amser, egni ac arian yn cynnal delwedd unigryw y ddinas ac mae'n sicr, gyda'r holl dwristiaid oedd yno o bob cwr o'r byd, fod yr ymdrech yn talu ar ei chanfed.

Bruges yw'r ddinas sy'n denu'r nifer fwya' o ymwelwyr o blith y rhai sy'n ymweld â Gwlad Belg.

Camlas a cheffyl

Mae modd cael blas ar Bruges o'r gamlas ac o geffyl a chert ac mae hyn i gyd yn ychwanegu at y teimlad canoloesol sydd yno.

Mae amgueddfeydd niferus y ddinas yn gartre' i brif gasgliad celf Ffleminaidd y wlad, mae'r camlesi
a'r strydoedd cerrig yn hyfryd ac mae popeth yn lân ac yn ddestlus.

Er ei bod yn hawdd dychmygu eich bod nôl yn y drydedd ganrif ar ddeg mae'r cyfan bron yn rhy berffaith a'r awyrgylch, o'r herwydd, yn afreal.

Er gwaetha' hyn mae digon o bethau yno i blesio pawb felly bant â fi ar droed ac ar gwch i ddarganfod y ganolfan enwog.

Bronnau siocled

Ar y bore cyntaf roeddwn wedi ymweld ag eglwys gothig, wedi gweld ambell i leian yn crwydro, yfed sawl coffi cry' ar sgwâr hyfryd y Markt ac wedi prynu par o fronnau siocled yn anrheg pen-blwydd i ewythr di-enw ! (a do, cafodd Wncwl Caron flas ar y siapau melys!)

Roedd mynd ar hyd y camlesi yn hyfryd o hamddenol ac yn ffordd dda o weld yr hen ddinas. Hawdd dychmygu nad oedd llawer wedi newid ers canrifoedd.

Yn ystod yr oesoedd canol datblygodd Bruges i fod yn ganolfan bwysig o safbwynt masnachu.

Rhwng 1524 a 1830 rheolwyd y ddinas gan Sbaen, Awstria, Ffrainc a'r Iseldiroedd wrth i'r gwledydd weld gwerth yn ei lleoliad.

Allforiwyd gwlân o Brydain i Bruges ac yna cynhyrchwyd deunydd ohono.

Mae Bruges hefyd yn baradwys i bererinion gyda 12 o eglwysi gan gynnwys yr un enwog, Heilig Bloed Basiliek, Eglwys y Gwaed Sanctaidd, a adeiladwyd rhwng 1139 a 1149.

Cedwir ffiol yn yr eglwys ar sgwâr y Burg yr honnir ei bod yn dal dafnau o waed a dwr o gorff Crist.

Yn ôl y stori cadwyd yr hylif gan Joseff o Arimathea wedi iddo olchi ei gorff ac er yr amheuon cyfoes mae'r traddodiad hynafol yn parhau wrth i orymdaith liwgar ond difrifol ei naws - yr Heilig-Bloedprocessie - gario'r ffiol drwy'r dre ar wyl Dydd Dyrchafael.

Yn ogystal â phlesio'r rhai sydd â diddordeb yn y crefyddol mae yna ddigon o ddiwylliant yn Bruges gyda tua 13 o amgueddfeydd.

O waith Jan van Eyck i luniau Magritte ceir amrywiaeth eang yn Amgueddfa Groeninge sy'n gartref i baentiadau celf Ffleminaidd hen a chyfoes.

Yn amgueddfa Arentshuis arddangosir gwaith artist o dras Cymreig.

Roedd Frank Brangwyn a anwyd yn Bruges yn 1867 yn enwog am baentio murluniau mawr ac mae un o'r goreuon yn Neuadd y Ddinas yn Abertawe.

Ond heb os, i fi, y prif ddarn celf yn Bruges yw cerflun Michelangelo o'r Madonna a'i phlentyn mewn marmor gwyn.

Mae hwn wedi'i leoli yn Eglwys y Forwyn Fair.



Neuadd y ddinasYm 2002 Bruges fydd Dinas Diwylliant Ewrop ac roedd tipyn o waith adnewyddu ac atgyweirio yn mynd yn ei flaen yn ystod ein hymweliad.

Mae hyrwyddor diwylliant, balchder yn y dreftadaeth, agwedd broffesiynol y bobol oedd yn gweithio yn y siopau, cafés ar bwytai yn sicrhau llif cyson o ymwelwyr.

Mae dinas Caerdydd yn ymgeisio i fod yn ddinas diwylliant Ewrop ym 2008 ond o weld yr hyn mae Bruges yn ei gynnig does dim gobaith gan Caerdydd.

Yn anffodus.




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy