大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ty Gwydr Brenhinol Syrffio'r sianelau
Testosteron, Teirw, Dawnsio a'r Simpsons mewn Ffrangeg - a chip ar Alan Titchmarsh!

Dydd Llun, Mai 14, 2001

-Mae Iolo ap Dafydd newydd gychwyn tymor yn ohebydd 大象传媒 Cymru ym Mrwsel.
-Dyma ail erthygl ei briod, Sian Elin, yn sôn am fywyd yn eu cynefin newydd.

Dwi newydd dyngu llw pwysig iawn, ar ôl treulio ychydig o wythnosau yn syrffio sianelau teledu gwledydd Ewrop.

Dwi wedi addo i'r Caws Mawr na fyddai byth eto yn cwyno am safon rhaglenni teledu yng Nghymru. Na - o hyn ymlaen fe fydd yn bleser gwylio'r cynnyrch cartre'.

Llygadu'r sianelau

Dyma enghraifft gyflym o noson wylio Ewropeaidd:

-Er mwyn cyflwyno ar Rai Uno (yr Eidal) mae angen bronnau mawr ac, wrth gwrs, y gallu i siarad pymtheg i'r dwsin.

Digon o destosteron
- Mae TVE (Sbaen) yn darlledu sioeau ymladd teirw fel y bydd sianelau adre yn dangos gemau rygbi.

Yr un yw'r elfennau perthnasol - mae 'na stadiwm a thorf yn gwylio, mae un ochr yn derbyn cweir, mae 'na waed, ac mae 'na ddigon o destosteron. Llanelli v Caerdydd, y matador v y tarw?

Cawn hefyd y pleser o weld ail chwarae - action replay - o'r gyllell yn glanio ar war y tarw, yn union fel y byddwn adre yn cael gweld chwaraewr yn croesi'r llinell i gael y cais holl bwysig hwnnw.

Mae'r matador yn debyg i chwaraewyr rygbi ac yn cael ei drin fel tipyn o arwr ond mae'n siwr na fyddai rhywun fel Colin Charvis neu Scott Quinnell yn rhy falch o wisgo teits tynn, lliwgar, pinc neu goch a hetiau bach duon.

Ond pawb at y peth a bo, mae gwrhydri yn ategu ei hun mewn ffyrdd gwahanol - olé!

Llond stiwdio o ganu a dawnsio
- Sianel arall gwerth ei gweld yw TRT (Twrci).

Bob tro fydda i'n troi ati mae llond stiwdio o bobl yn canu neu'n dawnsio ac mae'n fy hatgoffa i o'r stori am fy ffrind Andrea a'i chariad Stuart yn mynd i Dwrci ar eu gwyliau ac yn penderfynu mynd i weld perfformiad gan y Whirling Dervishes.

Roeddent yn edrych ymlaen yn arw gan feddwl mai grwp pop lleol oedd y troellwyr.

Ond ar ôl gwylio tua dwsin o ddawnswyr yn perfformio'r symudiadau troellog, traddodiadol, am rhyw ddwy awr llowciwyd nifer o ganiau o gwrw Efes!

Felly ma' na wên barhaus ar fy wyneb wrth wylio dawnswyr a chantorion lliwgar TRT.

Cip ar Alan Titchmarsh
- Mae'n od gwylio aelodau o deulu The Simpsons yn siarad .... Ffrangeg.

Rhyfedd hefyd yw gweld rhyw ffilm wachul, Americanaidd, gyda Jean Claude van Damme (sydd, gyda llaw, yn un o'r deg enwogion sy'n dod o wlad Belg) gydag is-deitlau Fflemineg.

- Ac wrth gwrs dwi'n cael gweld 大象传媒 1 a 大象传媒 2 - ond awr yn hwyrach wth gwrs. Felly dwi'n gwylio'r News at 10 am unarddeg ac, yn anffodus ddigon, dwi wedi cael ambell i gip ar Alan Titchmarsh a'i gyfeilles gringoch, Charlie Dimmock, yn Ground Force!


Ymweld â thai gwydr
Ymlaen at bethau mwy diwylliannol. Bu'r pedwar ohonom - fi, fe, yr hyna' a'r ifanca' yn ymweld â Thai Gwydr Brenhinol yn Laeken sydd yng ngogledd y ddinas.

Mae rhain yn hynod ac yn cael eu cymharu â'r Crystal Palace gwreiddiol yn Llundain a'r Gerddi Botaneg yn Kew.

Mae'r tai gwydr trawiadol a adeiladwyd gan frenin Leopold II tua 1865 yng ngerddi cartref y brenin a'r frenhines bresennol, Albert a Paola, ac maent yn cael eu hagor i'r cyhoedd am dair wythnos yn unig bob blwyddyn.

Helfa drysor o daith
Yn anffodus, doedd Albert a Paola ddim yno i'n tywys o amgylch y gerddi - mae'n siwr eu bod nhw wedi mynd am wyliau bach i'r ty haf sydd ganddynt yn agos i ardal Woluwe-St-Pierre.

Ta waeth, dyma helfa drysor o daith - roedd cerdded trwy'r twnel coch cyfoethog o blanhigion ffiwsia, gweld y lilis gosgeiddig, y rhedyn swil a'r gerddi bach o goed bonsai Siapaneaidd - yn wych ond y cewri palmwydd sy'n aros yn y cof.

Roedd y casglaid o goed palmwydd sy'n ganrifoedd oed yn rhyfeddol ac wrth iddynt dyfu rhaid eu tyllu'n ddyfnach i'r ddaear yn hytrach na'u torri ac wrth gwrs rhaid gwarchod to y tai gwydr.

Crwydrais yng nghwmni nifer o ymwelwyr eraill (tybir bod tua 50,000 o bobl yn gwasgu i'r tai gwydr yn ystod y cyfnod hwn) a sylweddolais nad oedd yr un peth a welais yno wedi fy mhlesio cymaint â'r bwa o dresi aur sydd yn ngerddi Castell Bodnant.

Pan fydd mwy o amser gen i fe fydd yn rhaid i fi fynd nôl i Laeken i awgrymu'n garedig wrth Albert a Paola i drefnu trip bach ar hyd yr A55 i Ddyffryn Conwy!

Fe'm swynwyd yr eildro yn ddiweddar; na, nid gan gerfluniau neu adeiladau hardd Art Deco Brwsel, ond gan olygfa go brin.

Wrth fynd â'r plant i'r ysgol gwelais wiwer goch yn rhedeg ar hyd ochr y parc cyn diflannu i fyny coeden yn go glou!

Dyma'r ail dro yn unig imi weld gwiwer goch - gwelais y llall yn blentyn - mewn amgueddfa wedi ei stwffio, druan.

Dwi ddim yn gwybod pwy oedd fwya' cyffrous - fi neu'r plant! Mae'r llwydion yn ddigon o bla adre ond roedd gweld y gochen bert yma'n brofiad a hanner! Dwi am gymryd hwn fel arwydd o lwc dda!





ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy