大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Gwyliau chwedlonol

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel

Dydd Llun, Mai 20, 2002

Mae'n ddiddorol clywed bod Bwrdd Croeso Cymru wedi dechrau ar ymgyrch farchnata fawr gyda'r bwriad o ddenu trigolion o Wlad Belg a'r Iseldiroedd i ymweld â Chymru.

Bydd hysbyseb deledu, y gyntaf erioed gan y Bwrdd Croeso i werthu' Cymru dramor - yn cael ei hanelu at bron i bum miliwn o bobl.

Dyna'r gobaith, er bod 26 miliwn yn byw yng ngwledydd Benelux.



Rhamant Pwyll a Rhiannon

Bydd yr hysbys sy'n gyfuniad o animeiddio a chymeriadau cig a gwaed yn adrodd stori wych Pwyll a Rhiannon o'r Mabinogion gyda'r darluniau'n troi'n actorion sy'n marchogaeth tuag at Gastell Caeriw yn Sir Benfro.

Yn ôl y corff twristiaeth mae'r 29,000 o ymwelwyr o Wlad Belg, a'r 49,000 o'r Iseldiroedd werth £13 miliwn bob blwyddyn i economi Cymru.

Ac hefyd, yn ôl yr ymchwil, mae'r bobloedd yma am ymweld â gwlad sy'n cynnig chwedloniaeth a hanes.

Ar eu ffordd i Iwerddon

Yn flynyddol dwi'n treulio fy ngwyliau haf yng ngogledd Sir Benfro ac, yn anffodus, mae nifer fawr o'r Iseldirwyr dwi wedi cwrdd a hwy yno ar eu ffordd i Iwerddon i flasu chwedloniaeth a hanes Gwyddelig - yn ogystal â'r Guinness.

Ysgwn i gwerth faint o ewros sy'n mynd i goffrau Iwerddon - tipyn mwy na £13 miliwn.

Yn naturiol, rhywbeth arall sy'n denu Ewropeaid i Iwerddon yw'r ewro ond faint, yn go iawn, o ddarpariaeth sydd yna i dderbyn yr arian newydd yng Nghymru?

A fydd siopau a chaffis yn fodlon derbyn yr ewro heb hawlio llog uchel?

Rhai yn aros

Ond rhaid dweud hefyd bod nifer o'r rhai fu'n ymweld â'r ardal wedi penderfynu aros am ddyddiau ychwanegol gan ddweud iddynt gael eu synnu gan brydferthwch naturiol y wlad a chyfoeth y parc cenedlaethol.

Mae'n siwr, felly, mai dyma yw gobaith y Bwrdd Croeso - annog twristiaid i ymweld â Chymru a threulio amser yno yn hytrach na teithio drwyddi a neidio ar y fferi yn Abergwaun.

Dwi'n mawr obeithio bydd yr ymgyrch yn gweithio ac yn denu twristiaid i Gymru.

Mae angen yr hwb wedi holl golledion a helyntion y clwy.

Dan ymbaré Prydain

Ond mae un peth bach yn fy mhoeni - fod ymgyrch farchnata y Bwrdd am ddatblygu Cymru o dan 'ymbarél' Prydain.

Siawns mai'r ffordd i ddatblygu Cymru yw dangos a nodi'r gwahaniaethau.

A yw hyn yn fater o "for Wales see England"?

Mae cynnwys yr hysbyseb, stori o'r Mabinogion, yn hynod i Gymru. Chwedloniaeth a hanes sy'n denu'r ymwelwyr ac mae'r ddau beth yma mor gyffredin a gwerthfawr â'r dwr yng Nghymru.



Castell yr hysbysebPam, felly, mae'n rhaid bod o dan yr 'ymbarél'? Y gwahaniaethau nid yr hyn sy'n debyg sy'n ddiddorol i ymwelwyr.

Edrychaf ymlaen at weld yr hysbyseb. Caf eistedd o flaen y bocs yn fy nghartref ym Mrwsel a gweld pendefig Dyfed a'i gariad yn dod yn fyw o flaen fy llygaid.

Gobeithio y bydd yn codi hiraeth arnaf i - ac awydd ar weddill Gwlad Belg.




ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy