大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Eirianm Stephen Williams - Cadeirydd Pwyllgor Ieuenctid M么nsdar Prifwyl yr Urdd ym M么n
Chwefror 2004
Un person sy'n gweithio ac wedi gweithio'n galed iawn gyda'r Urdd yw Cadeirydd y Pwyllgor Ieuenctid - y M么nsdar ei hun - Eirian Stephen Williams.
Cafodd Eirian ei chyflwyno i'r Urdd pan oedd hi'n 4 oed yn Ysgol Gynradd Llandrygarn. Ei phrofiad cyntaf o'r Urdd oedd cystadlu ar yr unawd dan wyth pan oedd yn 4 oed a chael llwyfan yn y cylch ar 么l canu Y Gwanwyn'.Bu yn cystadlu mewn nifer helaeth o gystadlaethau tan iddi gyrraedd 25 oed. Mae hi wedi ennill amryw o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, enillodd yr ail wobr ym Mro'r Preseli yn 1995 am Unawd i Ferched rhwng 15-19 oed a chafodd gyntaf am stori fer dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd yn 1998.

Eleni caiff y cyfle i gystadlu yng nghystadlaethau i rai hyd at 30 oed drwy Aelwyd yr Ynys - aelwyd newydd sbon sydd wedi ei sefydlu ar Ynys M么n yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod hon. Mae'r Aelwyd yn bwriadu cystadlu mewn amryw o gystadlaethau i Aelwydydd ac wedi cychwyn ymarfer bob nos Sul am 7.30 yng Nghapel L么n y Felin, Llangefni. Mae croeso i unrhyw un dros 14 oed ymuno.

Mae Eirian yn mwynhau gwneud gwaith gwirfoddol i'r Urdd ac wedi gwneud hynny ers rhyw ddeg mlynedd; dechreuodd drwy stiwardio yn rhagbrofion cerdd pan oedd oddeutu 15 oed.Y gweithgaredd mawr nesaf fydd Noson G诺yl Ddewi yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, nos Sadwrn, Chwefror 28. Bydd cyfle i wrando ar gyflwyniad ar y delyn ar gychwyn y noson wedyn bydd bwffe o gynnyrch lleol ac adloniant gan yr enwog Elin Fflur ac un gr诺p arall. Bydd hefyd cyfle i fwynhau dawnsio gwerin yn ystod y noson.

Yn ystod yr Eisteddfod ei hun, bydd aelodau Pwyllgor Ieuenctid M么nsdar yn brysur yn helpu gyda chystadlaethau roc a chanu ysgafn, maent hefyd yn bwriadu trefnu gig mawr ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod gan obeithio y daw llawer o bobl ifanc ac Aelwydydd yno i gefnogi.

Am fwy o wybodaeth am y Pwyllgor Ieuenctid a'r gweithgareddau maent yn ei drefnu ffoniwch Swyddfa'r Urdd ar 01248 363100

Rydym yn dymuno'n dda i Eirion a'i phwyllgor gyda phob gweithgaredd yn ystod yr Eisteddfod ac yn gobeithio y bydd y gwaith caled maent wedi ei wneud yn y misoedd diwethaf yn dwyn ffrwyth ac y bydd yr wythnos yn llwyddiant mawr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy