大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Cerrig yr orsedd Llwyfan i 'Lwyfan'
Mehefin 2004
"Be' sy'n gwneud 'steddfod dda?" medda' fi wrth y sawl oedd wrth f' ochor."Aimsir mhaith" (Tywydd da), medda' fynta - heb orfod meddwl am y peth.
Deallais yn iawn pam ei fod o yn gallu dweud hynny mor bendant a heb orfod aros i feddwl. Fel un wedi ei eni a'i ddwyn i fyny yng ngorllewin Iwerddon, mae tywydd da yn bwysig i ninnau ond nid ydym, yn anffodus, yn cael hynny yn rhy aml yr amser yma o'r flwyddyn nag ar unrhyw adeg arall mewn gwirionedd. Glaw da' ni 'di arfer hefo fo, da chi'n dallt. Glaw man, glaw mynydd, glaw trwm, glaw t'rana' - pob math o law a dweud y gwir ac oherwydd hynny ma' rhywun yn gallu gwerthfawrogi'r haul ar yr achlysuron prin rheini pan mae o yn t'w'nu.

Fe werthfawrogais weld yr haul yn ystod achlysur cyhoeddi 'Steddfod M么n yn Llanrhuddlad hefyd. Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig o braf - ac mae hynny'n arwyddo llwyddiant ysgubol i'r 'steddfod ei hun ymhen rhyw flwyddyn o amser.

Derbyn gwahoddiad wnes i i'r achlysur gan un o'm cefndryd Celtaidd ('big wig' ym myd y beirdd - fasa fiw i mi ddweud pwy ond mae o wedi bod yn Talwrn!) a chan mai achlysur braidd yn ddiarth ydy cyhoeddi eisteddfod yn fy rhan i o'r byd, derbyniais a gwneud yn siwr ein bod ein dau yn eistedd yn y rhes flaen.

Fel gwyddoch chi'n iawn, mae cryn wahaniaeth rhwng yr 'hooley' gawn ni a'ch eisteddfod chi felly addysg pur oedd y cyfan i mi. O blith gweithgareddau'r diwrnod i gyd, yr Orsedd aeth a'm bryd ac yn arbennig felly y seremoni o dderbyn aelodau newydd i'r cylch cyfrin yma o bobl wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwyn, glas a gwyrdd. Hyfrydwch pur oedd gweld dau o'r un enw (T.A.) yn cael eu derbyn. Llongyfarchiadau calonog i'r ddau (a phawb arall wrth gwrs) sy'n llawn haeddu'r anrhydedd a osodwyd ger eu bron.

Deallaf mai awdur a hanesydd lleol ydy un T.A. ac edrychaf ymlaen am gael darllen ei waith wrth groesi Sianel Sant Si么r ar fy nhaith yn 么l i'r gorllewin pell.

Yr oeddwn yn gyfarwydd 芒'r ail a anrhydeddwyd gan i mi fod yn gweld cynhyrchiad o'i waith yn Theatr Fach, Llangefni yn ddiweddar. Haeddianol iawn oedd anrhydedd o'r fath i gynhyrchydd drama penigamp. Y mae ganddo, yn sicr, brofiad blynyddoedd yn y byd theatrig gan gynnwys actio, cynhyrchu, gofalu am yr ochr dechnegol, cyfansoddi a beirniadu. Bu'n hogi a minio ei grefft ar hyd y blynyddoedd nes meddu ar berffeithrwydd.

Clywais ddweud iddo fod yn berchen y gallu i ddarllen drama a'i 'gweld' ar y llwyfan. Ond chwarae teg iddo, dydy o ddim yn ymffrostgar o gwbl a dim ond ar y llwyfan y clywir ac y gwelir ffrwyth ei lafur, bob tro. Os felly, dyma un prin yn yr oes sydd ohoni a da gweld fod ei ddawn wedi cael ei chydnabod gan gorff mor wybodus a Gorsedd Beirdd Eisteddfod Ynys M么n. Daliwch eich gafael ynddo fo a gwnewch yn si诺r nad ydy 'big bucks' y West End neu fyd teledu a ffilm yn cael eu crafangau yn sownd ynddo. Cofiwch beth ddigwyddodd i Richard Harris, Peter O'Toole a'u tebyg.

Yn anffodus, methiant fu fy ymgais i gyfweld y cyfaill neu "Llwyfan" fel y geilw ei hun bellach. Hyderaf y caf fod ym M么n yn fuan eto ac y cawn gwrdd 芒'r brawd dawnus. Edrychwn ymlaen at weld y cyfweliad yn yr 'Aran Flyer' neu, os yn haws, fersiwn ddiwygiedig (wedi ei chyfieithu o'r Wyddeleg, wrth gwrs) yn Y Glorian.

Am y tro, rhaid dweud "Sl谩n agat" (Hwyl fawr i chi sy'n llai llythrennog) ond diolch am gael bod yn rhan o'r dathliadau. Ymlaen 芒'ch gwaith gyfeillion - ac os ca' i fentro gadael un cwestiwn bach i'r Orsedd - "Da chi ddim wedi cysidro newid y'ch lliwiau i felyn, glas a phinc?"

Padrig O'Flaherty
Beirniad Drama yr 'Aran Flyer'


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy