大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Y garreg orchest Carreg Orchest Ysgol Esceifiog
Tachwedd 2005
Mae pawb fu'n mynychu hen ysgol gynradd Gaerwen yn si诺r o gofio'r hen garreg fawr si芒p 诺y tu allan.
Roedd rhwng y ddau 'gloakroom' lle bu cannoedd o blant drwy'r blynyddoedd yn neidio, sefyll neu chwarae rhyw g锚m arni.

O achos ei phwysau ni welais hi yn cael ei symud gan y plant, nac athro chwaith o ran hynny, ond un waith yn unig gan ddau o hogia mawr oedd y pryd hynny yn g么rfod aros yn yr ysgol tan yn bymtheg oed sef Twm, Refail, Pentre Berw ac Owen Jones, Felin neu Now O.G. fel mae pawb yn ei adnabod r诺an. Y ddau yn ei rowlio o gylch y cyntedd nes oedd y llawr llechi yn ratlio fel daeargryn.

Cof arall sydd gennyf am Wyn 'Gweinidog' yn rhoi pregeth i Ger Siop Cem., Llew Refail, Raymond Jeriw a fi a phawb arall a hoffai wrando pan oedd Wyn eisiau i ni chwarae Seiat yn ystod yr awr ginio.

Doedd neb i weld yn gwybod na malio am hanes yr hen garreg. Tybiwn i mai 'maen a wrthododd yr adeiladwyr' oedd hi neu wedi ei chodi wrth wneud sylfaeni'r ysgol. Fodd bynnag, yno yr oedd hi ac yno y bu hi nes ei symud at ddrws cyntedd Ysgol Esceifiog newydd yn 1981. Gan fod yr oes wedi newid a phethau ddim yn cael llonydd, mae bellach wedi ei symud i mewn i'r cyntedd.

Wel, beth am ei hanes? Cafodd y cyn brifathro, Mr Dewi Ap Rhobert wybodaeth mai carreg orchest oedd hi, yn cael ei defnyddio yr oes o'r blaen gan weision ffermydd fel gorchest rhwng dwy fferm. Y gamp oedd i un ei chodi a'i thaflu dros ben wal i gae fferm arall ac un o'r fferm honno yn ei thaflu yn 么l ac ymlaen felly nes iddynt flino a'r olaf i allu ei thaflu oedd yn ennill yr orchest. Cafodd ffermwr o'r fro ei phwyso ond mae'r wybodaeth honno ar goll ond gall fod tua dau gan pwys yn hawdd.

Mae yn mesur tua 24 modfedd o hyd a 15 ar ei thraws a chan ei bod mor llyfn, cred Mrs Catherine Jones, y Brifathrawes, ei bod wedi dod o'r m么r. Gall hynny fod yn wir gan mai o'r gors y daeth hi oedd unwaith dan y m么r.

Sut y daeth yno a pham? Byddai diddordeb gan y prifathro J. W. Gruffydd mewn hel hen greiriau a byddai yn cael gan hwn a llall hen bethau wedi eu darganfod mewn cae neu ardd ar 么l aredig neu balu neu o'r cartrefi. Roeddent wedi eu gosod mewn cwpwrdd gwydr yn y dosbarth pan oeddem yn blant. Cofiaf am arfau o Oes y Cerrig, cleddyfau a hen bistol yn eu mysg. Pethau efallai o werth mawr.

O achos y diddordeb yma, meddai Eric Hughes, gynt o Frynteg (lle mae Arwynfa r诺an), dywedodd Parry Hughes ei dad wrth Mr Gruffydd am y garreg a'i hanes. Yr oedd wedi ei darganfod pan yn gweithio yn y gors wrth Tai Hirion o dan L么n Llangaffo tua 1938. Felly roedd rhaid ei chael i'r ysgol ac Eric yn un o d卯m o bump tua phedair ar ddeg oed a aeth i'w n么l mewn berfa, taith o tua phedair milltir un ffordd.

Dyma enwau'r pedwar arall mewn ffurf y gall yr oed yma eu hadnabod: Ned Thomas, L么n Graig, wedyn - Maes Merddyn. Tad Shirley, Valmai a'r criw. Jac (Bach) Roberts, Islwyn, wedyn - 6 Bangor Street, tad Anthony. John (Iard Goed) Thomas, Sgoldy, wedyn - 5 Maes Hyfryd. Tad John Alwyn, priod Mrs Irene Thomas. Now Griffiths, Dryll, L么n Llangaffo, wedyn - T欧 Coch Pentre Berw. Mae ei weddw, Mrs Nancy Griffiths yn byw ym Mryn Meurig, Llangefni.

Roedd yn rhaid cerdded o'r ysgol i lawr at tro Boston, ar hyd L么n Llangaffo at Bryn Fedwen ac i lawr tua milltir i'r gors at hen adeiladau Tai Hirion. I godi'r garreg rhoddwyd y ferfa ar ei hochr a'i rowlio iddi, wedyn y pump yn codi'r ferfa yn 么l ar ei thraed. Roedd y daith yn 么l yn llawer anoddach, nid yn unig o achos y llwyth ond oherwydd fod rhan fwya'r ffordd i fyny elltydd, yn enwedig allt garegog o'r gors at Bryn Fedwen. Eric a Ned ar bob llorp a'r lleill yn tynnu. Uchelfraint yr holl lafurio oedd fod Ned yn cael ysmygu yn ei gartref ac felly roedd ganddo stoc dda o sigar茅ts arno. "Rhai bach tenau brown a rheini yn blasu yn ddiawledig oeddynt", meddai Eric ond fe ddaethant i iws da ar y daith hir nes cyrraedd congl fetlin sydd uwchlaw Bron Heulog ac eistedd ar y ferfa yno i gael y sm么c olaf cyn mynd i mewn i'r pentref ac yn 么l i'r ysgol. Be ddywedai rhieni heddiw tasa eu plant yn cael eu hanfon ar antur fel hyn.

Un waith y gwelodd Eric y garreg yn cael ei chodi a hynny pan fu 'bet' rhwng ei dad a Michael Pritchard, Ynys Ferw a 'draw game' fu hi, gan i'r ddau ei chodi. Mae Eric bellach yn 80 oed ac wedi byw yn Y De ers 62 mlynedd. Mae'n darllen Y Glorian yn rheolaidd.

Llawer o ddiolch i Eric am yr hanesyn yma.

Os oes rhywun 芒 stori neu atgof am yr hen garreg byddwch mor garedig a chysylltu 芒 Mrs Catherine Jones y Brifathrawes neu gyda mi.

John Dewi Pritchard.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy