lard gefn Gwesty'r Bull oedd y lleoliad ar nos Fercher, Awst 16, lle daeth tyrfa dda i wrando ar Daniel Lloyd a Mr Pinc, Nathan Williams a 1Sain. Roedd awyrgylch hwyliog a chartrefol yn yr iard, a pherfformiadau egnïol gan yr artistiaid.
Roedd Clwb Wellmans yn llawn nos lau, Awst 17 ar gyfer noson gomedi yng nghwmni Tudur Owen a'i gyfaill P.C. Leslie Wynne, Dewi Rhys, Eilir Jones a Beth Angell. Roedd y wên ar wyneb pawb wrth adael yn tystio i lwyddiant y noson.
Ar nos Wener Awst 18 daeth Orig Williams a'r sioe reslo i Bias Arthur. Mae Orig yn feistr ar godi hwyl y gynulleidfa gyda'i sylwebaeth o ochr y cylch. Aeth llawer o blant adref wedi colli eu lleisiau ar ôl yr holl weiddi.
Daeth yr ŵyl i uchafbwynt ar nos Sadwrn, Awst 19 yng Nghlwb Pêl-droed Llangefni gyda pherfformiadau gwych gan Rafters, Sara Mai a'r Moniars, Frizbee a Meinir Gwilym a'r Band.
Hoffai Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cefni ddiolch i Westy'r Bull, Clwb Wellmas, PIas Arthur a Chlwb Pêl-droed Llangefni am bob cyd¬weithrediad, i gwmnïau Huws Gray Fitlock a Baynes & Son Haulage am ddarparu llwyfan nos Sadwrn ac i Siwan Owens o Fenter laith Môn am bob cymorth wrth drefnu'r ŵyl.
Hoffai'r Pwyllgor hefyd gydnabod nawdd Cyngor Sir Ynys Môn, Cymunedau'n Gyntaf, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Bwrdd yr laith Gymraeg a Medrwn Môn. Bydd y trefniadau ar gyfer Gŵyl Cefni 2007 yn cychwyn yn fuan, felly gwyliwch y wasg am fwy o fanylion.
|