大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Band Dawnswyr M么n ar y cei ym Mortagne sur Gironde - Awst 2003 Ail daith dramor Dawnswyr M么n Haf 2003
13 Hyfref 2003
Ddeng niwrnod yn unig wedi dychwelyd o Wlad Pwyl roedd Dawnswyr M么n wedi ymgynnull ym Mortagne-sur-Gironde, tref fechan tua hanner ffordd rhwng La Rochelle a Bordeaux.
Aethant yno i ymuno yn nathliadau Gwyl Owain Lawgoch, gor-nai i Llywelyn ein Llyw Olaf, fu'n ymladd efo'r Ffrancwyr yn erbyn y Saeson yn y 14 Ganrif. Credir iddo gael ei lofruddio ym Mortange ac yno y dadorchuddiwyd cofeb iddo fis Awst eleni.

Daeth pawb ynghyd ar sgw芒r Mortagne nos Iau a chafwyd cyd-ganu gan y Cymry oedd wedi teithio yno o'r de a'r gogledd rhai wedi dod i fwynhau, eraill yno i berfformio hefyd. Roedd yn noson hwyliog, gyfeillgar a'r Ffrancwyr wrth eu bodd a pharhaodd yr awyrgylch hamddenol drwy'r bwrw Sul.

Ddydd Gwener, wedi gorymdeithio drwy'r def a gwylio seremoni dadorchuddio'r gofeb roedd Dawnswyr M么n yn perfformio i gynulleidfa o 800. Roedd y gymeradwyaeth yn gynnes iawn a'r Dawnswyr hefyd wedi mwynhau.

Cafodd Si么n Gwilym Jones o Lansadwrn dderbyniad arbennig am ei glocsio unigol. Bu dawnsio ar y stryd ddydd Sadwrn a pherfformio eto gyda'r nos.

Cafwyd amser braf yn dawnsio ar y cei ddydd Sul a gyda'r nos bu'r cerddorion yn chwarae alawon Cymreig i'r dorf oedd wedi ymgynnull yno.

Daeth llawer i fynegi eu gwerthfawrogiad ac i ganmol y perfformiadau gafwyd gan Ddawnswyr M么n gydol yr Wyl. Am 11 o'r gloch nos Sul cafwyd 20 munud o sioe d芒n gwyllt i gerddoriaeth amrywiol a llais Bryn Terfel (ar CD!). Diweddglo gwych!

Roedd gadael yn anodd wedi derbyn cymaint o groeso gan y trigolion lleol sawl un wedi rhoi llety i'r perfformwyr, eraill yn paratoi bwyd. Gobeithio y daw cyfle cyn bo hir i groesawu pobl Mortagne i F么n a dawnsio iddynt eto.

Wedi Haf
Ers dechrau Medi bu Dawnswyr M么n yn cyflwyno eu rhaglen awr i Gynhadledd Brydeinig Trefnwyr Blodau yn Llandudno ac yn dawnsio ar y sgw芒r ym Miwmares.

Os ydych eisiau unrhyw wybodaeth am Ddawnswyr M么n ffoniwch Mrs Mair E Jones ar 01248 450508 (yn enwedig dynion sydd am ymuno gan fod sawl merch newydd wedi ymuno yn ddiweddar).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy