大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Lois Jones yn derbyn gwobr Tlws yr Ifanc Eisteddfod y Talwrn
Rhagfyr 2004
Eleni eto cafwyd Eisteddfod lwyddiannus ar Dachwedd 6ed a chalonogol oedd gweld pobl ifanc o'r pentref yn cymryd rhan yn y ddwy seremoni.
Calonogol hefyd oedd gweld cymaint o gystadleuwyr brwdfrydig mewn nifer o gystadlaethau llwyfan yn ystod y dydd a gyda'r nos. Bu disgyblion Ysgol y Talwrn yn brysur yn cystadlu ar y llwyfan drwy'r dydd a gwelid eu Gwaith Celf a'u Gwaith Ysgrifennu wedi'u harddangos ar furiau'r Neuadd. Beirniaid cystadlaethau'r llwyfan oedd Eifion Harding (Llefaru), Huw E. Jones, Porthaethwy (Cerdd i'r rhai dan 12), Laura Hughes Jones (Cerdd yn y cyfarfod gyda'r nos) a Guto Puw (Cerdd Dant, Canu Gwerin gyda'r nos).

Beirniaid y cystadlaethau Celf, Technoleg a Ffotograffiaeth oedd Islwyn Williams (Ty'n Llidiart gynt) a Diane Williams, Trefdraeth, a Rhinedd Hughes, Bodffordd oedd yn beirniadu'r coginio.

Enillwyd Tlws yr Ifanc eleni, sef cloc pren hardd si芒p Ynys M么n a wnaed gan Mr Dutton, Ty'n Mynydd, Cefniwrch ac a roddwyd gan Richard a Bet Evans, Cae Cam gan un o enethod y pentref sef Lois, Caechwarel a chafodd ganmoliaeth uchel gan Feirniad Llenyddiaeth yr Ieuenctid, Mrs Valmai Rees, Moelfre.

Yr ail oedd Branwen Chilton, Llangernyw, enillydd y llynedd, ac yn drydydd Eirian Fflur Davies, Bryngwran. Haf Wyn oedd yn gofalu am y seremoni a chanwyd C芒n y Cadeirio gan Buddug William.

Guto Wyn, Wern, sydd erbyn hyn yn athro mathemateg yn Ysgol Dyffryn Ogwen oedd llywydd y p'nawn a soniodd am yr hyn a elwodd o'i brofiad gwerthfawr yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod pan oedd yn yr Ysgol Gynradd.

Diweddglo braf i gyfarfod y p'nawn oedd gweld c么r, dau gr诺p Dawnsio Creadigol, gr诺p Dawnsio Disgo a Pharti Dawnsio gwerin o Ysgol y Talwrn. Cyflwynwyd tair gwobr arbennig i ddisgyblion dan 12 oed yn y gwahanol adrannau ac enillodd Gareth Wyn Hughes, Ysgol y Talwrn am Waith Ysgrifennu Creadigol, Mared Emlyn, Ffestiniog am ei pherfformiadau ar y llwyfan a Pippa Van Halderen enillodd yn yr Adran Celf a Chynllunio.

Cafwyd Seremoni Ddwbl gyda'r nos, sef Seremoni Anrhydeddu enillwyr y prif gystadlaethau Rhyddiaith a Barddoniaeth a hynny dan ofal Mrs Helen Evans gyda chymorth pobl ifanc o'r pentref a Haf Wyn yn canu C芒n y Cadeirio. Yr enillwyr oedd Ifan Roberts, Pentyrch, (yn enedigol o Landdona) a enillodd y Pl芒t gyda phatrwm Celtaidd, a roddwyd er cof am y diweddar Tony Price, am ei Stori Fer 'Colli Tir' ac Arthur Thomas, Porthmadog enillodd y gadair fechan hardd a luniwyd eto eleni gan Mr Gareth Thomas, Ysgol Gyfun Llangefni, am ei gerdd 'Pontydd'. Canmolwyd y ddau a hefyd safon uchel y ddwy gystadleuaeth gan y beirniad y Prifardd Ddr. Gerwyn Williams, Bangor.

O eleni ymlaen rhoddir y gadair er cof am y diweddar William Hughes, cyn ysgrifennydd yr Eisteddfod. Un o gefnogwyr selocaf yr Eisteddfod, ac a fu'n Isysgrifennydd gweithgar am flynyddoedd oedd Llywydd Cyfarfod yr Hwyr sef Mrs Eira Pritchard, Llangefni (Eira Jones, Trawscoed gynt).

Y cyfeilyddion oedd Mrs E. Olwen Jones a Nia Efans, y ddwy o 'r Talwrn (bore a phrynhawn) a Mrs Olwen Jones, Llangefni yn yr hwyr. Rydan ni'n ffodus dros ben yn y Talwrn o gael mwynhau clywed caneuon newydd a gyfansoddwyd yn arbennig gan y gyfansoddwraig Mrs E. Olwen Jones ar gyfer yr Eisteddfod. Gofalodd Mrs Gwawr Oliver am osod gwaith creadigol y cystadleuwyr o amgylch y neuadd a Mrs Myfanwy Williams drefnodd fod lluniaeth blasus a baratowyd gan aelodau Mercher y Wawr y pentre a rhieni Ysgol y Talwrn ar gael trwy gydol y dydd a gyda'r nos.

Dymuna Pwyllgor yr Eisteddfod ddiolch i bawb am eu cymorth a'u cefnogaeth ac yn arbennig i athrawon a chymorthyddion Ysgol y Talwrn am eu gwaith di-flino'n paratoi'r plant ar gyfer yr Eisteddfod. Roedd hi'n braf gweld cymaint o gefnogaeth gan y rhieni, perthnasau a chyfeillion a'r awyrgylch hapus yn goron ar y cyfan.

Dyma'r llinellau ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y Limrig:

Daeth newid ddau ben L么n Felin
Mae twll lle bu cwt y Criw Cyfrin
Ac ar 么l yr Etholiad
Lawr yn y Siop Siarad
Mae s么n am efeillio 芒'r Kremlin.
1af - Ann Wyn Owen, Rhoscolyn.

Gwn芒nt dwll ym mhocedi y werin.
2il - Nan Pritchard, Penysarn.

Mae s么n am wneud cerflun o Stalin
3ydd - Ann Wyn Owen, Rhoscolyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy