大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Rali yn Llundain Rali yn erbyn rhyfel Irac
Mawrth 2003
Trefnwyd pum bws llawn cefnogwyr heddwch gan Grwp Heddwch Bangor ac Ynys M么n i'r rali wleidyddol fwyaf a welwyd erioed yng ngwledydd Prydain ddydd Sadwrn, Chwefror 15fed yn Llundain.

Roedd hi'n amlwg oddi wrth y nifer o fysiau a welsom ar yr M6 ar M1 ar y daith i lawr bod yr orymdaith a'r rali yn mynd i fod yn ddigwyddiad trawiadol iawn.

Gyda'r orymdaith ogleddol yr ymunom ni yn Gower Street ger Euston ychydig cyn hanner dydd. Roedd gweld y mor o bobl yn cario baneri, placiardau a phosteri yn wefreiddiol. Yng nghanol difrifoldeb yr achlysur, roedd lle amlwg i ffraethineb ar y placiardau, er enghraifft, llun o Bush a Blair ar geiriau oddi tanynt Weapons of mass deception, I love Tony... Benn, Make tea not war a llun o gwpan de ar ben Tony Blair. Arwyddocaol iawn hefyd oedd y posteri o gefnogaeth yn ffenestri siopau a thai bwyta ar hyd yr orymdaith. Delwedd gofiadwy iawn ar Shaftesbury Avenue oedd actorion Les Miserables yn eu gwisgoedd yn barod am berfformiad y prynhawn yn chwifio'u cefnogaeth gyda posteri o ffenestri ochr y theatr.

Araf iawn oedd ein symudiau ar waelod Shaftesbury Avenue wrth i'r orymdaith deheuol o'r Enbankment a'n gorymdaith ni gyd-gyfarfod ar Piccadily Circus. Llenwodd y ddwy orymdaith y filltir olaf ar hyd Piccadily, y stryd a'r palmentydd. Pan gyrhaeddom ni Hyde Park am 5.00 or gloch, roedd y rali drosodd ond roedd miloedd ar filoedd y tu 么l i ni ar Piccadily. Hawdd felly oedd credu'r ffigwr o ddwy filiwn o bobl ar y gorymdeithiau ac yn y rali.

Teimlai pawb ar y daith adref eu bod wedi profi digwyddiad hanesyddol iawn. Cyfrifoldeb pob un ohonom yw cynyddu'r pwysau yn erbyn y rhyfel hon dros olew Irac. Ysgrifennwch at Tony Blair, Ieuan Wyn Jones AC ac Albert Owen AS i leisioch barn yn erbyn rhyfelgarwch imperialaidd yr Unol Daleithiol a'r Wladwriaeth Brydeinig. Am fwy o fanylion am weithgaredd Grwp Heddwch Bangor ac Ynys M么n cysylltwch 芒 Phil Steele, Ty Cerrig, Llangoed. Yn ardal Llangefni, cysylltwch 芒 Dylan Morgan, Cwpwrdd Cornel, Canolfan Y Ffowndri, Stryd Fawr, Llangefni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy