大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Lisa J锚n Jones Ennill gwobr
Ebrill 2009
Yn ddiweddar, enillodd Lisa J锚n Jones, 15 oed, o Bencraig wobr mewn Seremoni "Llais Ni" a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Fali.
Mae '''Llais Ni" yn gweithio mewn partneriaeth a Chyngor Sir Ynys M么n a NSPCC Cymru i wneud yn si诺r bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu c1ywed. Roedd Lisa ar restr fer gwobr "Llais Ni" am y Cyfraniad mwyaf i glwb/ysgol/sefydliad. Cafodd ei henwebu gan Siwan Owens, Rheolwr Theatr Ieuenctid M么n, am ei hymroddiad i'r gweithdai wythnosol ers 2003. "Pan ddywedom wrthi ei bod wedi'i henwebu ar gyfer y Seremoni a'i bod ar y rhestr fer, roedd hi wrth ei bodd ac yn ddiolchgar iawn. "Er bod Lisa yng nghanol blwyddyn brysur iawn yn yr ysgol yn astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU, mae hi'n dal i fynychu ein gweithdai TIM a'r C么r bob wythnos, yn ogystal a chystadlaethau a chyngherddau pan fo angen. Daw Lisa o deulu cariadus iawn, sy'n gweithio'n galed i roi'r gefnogaeth orau iddi i gyflawni ei huchelgais o fod yn berfformiwr proffesiynol yn y dyfodol", esboniodd Siwan Owens. Y llynedd, bu'n rhan o glyweliadau "Britain's Got Talent" ond ni lwyddodd i basio'r cam hwnnw, ond er bod ei nerfau hi'n racs, roedd wedi mwynhau'r profiad yn arw iawn. . Ychwanegodd Lisa, "Roedd y seremoni wobrwyo yn brofiad gwych a bydd yn rhywbeth y gallaf ychwanegu at fy CV er mwyn i mi gael datblygu fy ngyrfa a'm hamcanion. "Roedd yr awyrgylch yn wych ac roedd hi'n deimlad arbennig iawn i weld cymaint o bobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith caled." Mae TIM Mawr yn cyfarfod bob dydd lau rhwng 7 a 9 o'r gloch, ac yn fuan, bydd yn dechrau ymarfer ar gyfer cynhyrchiad cerddorol eleni. Os ydych chi rhwng 11 a 18 oed ac yn dymuno ymuno a TIM, cysylltwch a Siwan Owens, Menter Mon ar 725732 neu ewch i'n gwefan newydd yn www.monswn.co.uk
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy