大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Manon Wyn Williams Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Tachwedd 2007
Welish i 'rioed ffasiwn law nag am ddeg o'r gloch bora'r 21ain o Fedi, ac Elin Mair (y llefarwraig) a minna' ar ein ffordd i lawr am Bontyberem, i gystadlu yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Mi gyrhaeddo' ni Borthmadog cyn i ni fedru gweld yn iawn lle roedda' ni trwy ffenestr y car! Beth bynnag, bum awr yn ddiweddarach, trwy rhyw wyrth, mi ffeindio' ni'r lle.

Diben mynd lawr ddiwrnod yn gynharach oedd er mwyn cael ymarfer amseru. A'r prynhawn hwnnw, a finna'n dechrau cael cathod bach gan mai ond deuddeg munud oedd gen' i i berfformio tri darn, a'r ddynas efo'r stop-wats yn d'eud wrtha' i 'mod i wedi parhau am un munud ar ddeg a phedwar deg eiliad yn yr ymarfer - a hynny heb newid gwisg, dyma fo'n dechra' gwawrio arna' i yr hyn oedd o fy mlaen drannoeth! Felly'r peth callaf i'w wneud y noson honno oedd trio cael gwely go lew o gynnar.

Ond mi a'th hynny trwy'r ffenestr gan fod y ff么n yn canu'n ddi-baid efo negeseuon testun yn dymuno pob lwc ar gyfer y 'diwrnod mawr'! Felly 'toedd dim amdani ond diffodd y ff么n tan y bore.

Chychwynnodd fore Sadwrn ddim yn wych. Fel na thasa' gennym ni'm digon i feddwl amdano fo, fel pacio, gwneud yn si诺r fod ein props a'n dillad perfformio ni i gyd gennym ni, piciad i stryd Caerfyrddin i 'n么l manion ar gyfer gyda'r nos, mynd i'r Ivy Bush i ollwng ein cesys yn barod, bod ym Mhontyberem erbyn un ar ddeg, o ia a'r ffaith ein bod ni eisiau cymryd rhan yng nghystadleuaeth bwysicaf ein bywydau ymhen ychydig o oriau, be' welo' ni wrth gerdded at y car y tu allan i'r gwesty ond rhyw bapurau yn chwifio o dan y weipars a dyn bach hunanbwysig mewn c么t felen yn cerdded i ffwrdd yn ddirmygus. Felly ma' gen' i ofn fod 拢30 o bres 'rhen Bryn wedi mynd i dalu am Barti 'Dolig i draffig wordyns Caerfyrddin!

Beth bynnag am hynny, ni oedd y cyntaf i gyrraedd Pontyberem cyn rhan helaeth o'r criw teledu hyd yn oed, a oedd i fod i'n ffilmio ni'n cyrraedd. Felly ar 么l rhyw hanner awr o ddili-dalian, mi gawsom ordors i fynd yn 么l i'r car - bag and baggage - er mwyn i'r dyn camera, a oedd wedi cyrraedd bellach, gael ein ffilmio ni'n 'cyrraedd' ar y diwrnod tyngedfennol!

Ar 么l cael colur (dyma un o uchatbwyntiau'r penwythnos - a ges i fasgara am ddim hefyd!) fe roedd hi'n amser i mi gael fy ymarfer; mynd rhyw unwaith trwy'r darnau er mwyn i mi gael 'teimlad o'r llwyfan' fel mae nhw'n ei ddweud, ac yn bennaf er mwyn i'r g诺r cl锚n ar ochr y llwyfan a oedd yn gyfrifol am fy st么l i wybod lle i'w rhoi hi. A chyn i ni droi roedd hi'n amser cinio, ac am unwaith 'toedd 'na'm camera teledu rhyngo' fi a 'mwyd! Ac ar 么l y wledd (chwarae teg, fe roedda' ni'n cael ein bwydo'n dda iawn ganddyn' nhw) roedd ymarferion y bedair gantores.

Dyma'r unig siawns y cawn i'w gweld nhw'n perfformio'n iawn, felly mi benderfynais eistedd i'w gwylio, hynny yw, hyd nes y sylwais ei bod hi'n hanner awr wedi pedwar, ac ei bod yn hen bryd i mi sowtio i gael ymarfer bach arall - ar fy mhen fy hun y tro hwn.

Erbyn hanner awr wedi pump 'toedd gen' i ddim ewinedd ar 么l. Fedra' i'm dweud mai ar y nerfau oedd y bai (er bod y rheini'n dechrau cambihafio bellach), ond, sut ddyweda' i? Rhyw deimlad annifyr o fod yn anfodlon, wrth ddisgwyl a disgwyl i fysedd y cloc daro saith. Dyma 'na floedd o rywle'n datgan ei bod hi'n amser swper, ond 'dw' i'n meddwl 'taswn i wedi sb茂o ar fwyd, mi fasa'n ddigon amdana' i, felly mi es allan am awyr iach. 'Dw' i'n grediniol 'mod i wedi gwisgo haenau oddi ar balmentydd Pontyberem, oherwydd wnes i ddim byd am hanner awr gyfan ond cerdded yn 么l ac ymlaen hyd y stryd yn cnoi caead fy mhotel dd诺r a mynd trwy bob gair o'r perfformiad yn fy mhen. Wyddoch chi be? 'Dw' i'n mynd yn nerfus r诺an wrth feddwl am y peth!

Erbyn hyn roedd pobl yn dechrau cyrraedd, yn cynnwys y beirniaid, ac roeddwn i wedi dechrau mynd i deimlo'n swp s芒l. Mi fuaswn i wedi gwneud rhywbeth i gael Catrin yno i ddweud wrtha' i am gallio! Ta waeth, y peth gora' i mi ei wneud oedd mynd i newid fy nillad, gan mai fi oedd yr ail ar y llwyfan.

Fe aeth yr amser rhwng saith ac ugain munud wedi yn drybeilig o ara' deg ond o'r diwedd dyma fy ngalwad i i fynd i ochr y llwyfan yn barod. Roedd yr awr fawr (neu'r deuddeg munud) wedi cyrraedd o'r diwedd, ar 么l misoedd o ymarfer, a phoeni, heb anghofio'r hun' ydi hynny. 'Toedd yna ddim troi'n 么l r诺an, ac off a fi.

Wyddoch chi, fe aeth yr holl beth mor sydyn fel na 'tydw i'm yn cofio llawer amdano fo, heb law fod fy microffon i wedi disgyn ar lawr rhwng dau o'r darnau, a 'mod i'n sobr o boeth o dan y goleuadau - wel fe roedd gen' i hen drowsus i Elysteg fy nghyfyrderes amdanaf, top du Aelwyd yr Ynys, siaced cynhebrwng nain, hen sgert i Elen Roger Jones, a chardigan fawr mam dros y cwbl (on'd oeddwn i mewn cwmni da dudwch?!), felly 'toedd na'm rhyfedd 'mod i'n berwedig nag oedd?!

'Dwi'm yn meddwl 'mod i erioed wedi teimlo y ffasiwn ryddhad ag a ges i wrth gamu oddi ar y llwyfan. Y peth pwysicaf gen' i oedd 'mod i'n plesio'n hun, ac ro'n i mor falch o fedru dweud fy mod i wedi llwyddo i wneud hynny (sy'n fwy na alla' i ddweud am yr ymarfer!) 'Toedd dim i'w wneud nawr ond ymlacio, rhoi rwbath taclusach amdanaf, a gwylio gweddill y criw yn perfformio.

Rhaid i mi ddweud na wnaeth o fy nharo i tan adeg y canlyniad fod yr wyth ohono' ni mewn gwirionedd yn cystadlu yn erbyn ein gilydd.

Roedda' ni i gyd yn dymuno'n dda i'n gilydd ac yn canmol, a hynny o ddifrif.

O'r diwedd, dyma gael yr alwad i fynd ar y llwyfan ar gyfer y canlyniad, a thra roedda' ni'n sefyll yno'n un rhes, mi ges gyfle i weld lle roedd pawb yn eistedd yn y gynulleidfa: Catrin, Owen Huw Roberts, a Derwena'n un rhes yng nghanol y llawr, ac Iona Stephens, Eirian a Sian yr Urdd rhyw dafliad carreg oddi wrthyn' nhw.

'Toedd 'na'm posibl methu criw'r Aelwyd, gan gynnwys ambell i fodryb ac ewythr a Heledd ac Iwan yn eu mysg, yn y galeri yn un haid, ond fedrwn i ddim yn fy myw a gweld mam a dad yn lle'n byd. Ond mi nabodish wallt mam o'r diwedd a'i gweld hi'n rhoi winc arna' i a finna' rhoi gw锚n iddi hitha'.

Pan ddywedodd Rhiannon Lewis, y beirniad a oedd yn traddodi, ei bod hi rhwng dwy, roedd gen' i ddau enw yn fy mhen, a 'toedd Manon Wyn Williams yn sicr ddim yn un ohonyn' nhw. Ond pan glywish i'r gair 'actores', mi gododd fy nghlustia' i, a mi deimlish fraich Eirlys (y gantores werin) yn gafael amdana' fi, ac yna'r geiriau 'O F么n', wel ...! Dyna'r teimlad rhyfedda' i mi erioed ei gael.

Wyddwn i'm be' i'w wneud na lle i sb茂o na dim, a'r peth nesaf, dyma 'na gawod o freichiau'n dod amdana' fi, a dyna i chi deimlad braf gwybod fod y cystadleuwyr eraill yn falch drosta' i. A da eu bod nhw'n gafael amdana' i mewn gwirionedd, achos beryg mai colapsio fasa'n hanes i fel arall!

Mi edrychish i gyfeiriad y gynulleidfa a gweld y criw i gyd, y criw a oedd wedi dod yr holl ffordd i lawr i Bontyberem i 'nghefnogi i, ar eu traed ac yn gweiddi. Roedd pob llygad yn y lle arna' i, a 'toedd gen' i'm syniad beth i'w wneud!

Dyma fi a w锚f i'r galeri, a phawb yn codi llaw yn 么l, a chodi bawd ar Catrin. Feiddiwn i ddim sb茂o ar mam achos roedd gen' i ddigon o dd诺r yn fy llygaid yn barod.

A llaw ar fy nghalon, feddylish i erioed y bydda' hi'n dweud fy enw i. Ches i 'rioed gymaint o sioc yn fy myw, cymaint felly nes y ces i'r poen mwya' dychrynllyd yn fy 'stumog am ryw awran wedyn!

'Dwn im ai hapus oeddwn i ta be, er fy mod i wedi gwirioni, ond iesgob, am deimlad rhyfedd, ac anghofia' i fyth mohono fo.

Ac wrth feddwl yn 么l r诺an, 'Yr actores o F么n' - ydach chi'n meddwl fod sgert Elen Roger Jones rywbeth i'w wneud efo'r peth?!

'Ta i ddim i s么n m y dathliadau yn y gwesty wedyn, am resymau amlwg! Ond cyn cloi, mi fyddwn i'n hoffi diolch i bawb a ddymunodd yn dda i mi ac yn enwedig i bawb a ddaeth i Bontyberem o gefnogi; ac i Eryl Williams, Swyddog Datblygu'r Urdd ym m么n, am drefnu'r cwbl. Fyddai'r profiad ddim wedi bod hanner cystal heboch chi. A diolch hefyd am y degau o gardiau rwyf wedi'u derbyn - dros gant ohonyn nhw ('toes yna'm rhyfedd fod y post ar streic!) ac am y galwadau ff么n a'r negeseuon testun di-ri'. Ond mae fy niolch pennaf i Catrin, am ei hamser a'i chyfeillgarwch, i Derwena, meistres y gwisgoedd, am fod mor barod i'n nilladu fi bob tro; i Iwan am fy nanfon i n么l a blaen i ymarferion a fy helpu i ddysgu 'ngeiriau; i Heledd am gadw pawb yn gall ynghanol y miri; ac i mam a dad am ...wel, pob dim 'te!

Manon Wyn Williams



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy