大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Gwen a David yn ffarwelio 芒 hen gyfeillion ufudd a gweithgar Digwyddodd, darfu... megis seren wib!
Gorffennaf 2003
"Diolch, dim ond diolch yw ein rhan."
Pan ddywedodd Dewi, Blaen y Wawr wrthyf noson plygu rhifyn Mehefin o'r Glorian mai hwnnw fyddai'r ola' o weithdy Owie Jones, tybiais mai tynnu fy nghoes yr oedd.

Y bore Gwener canlynol es i fyny Stryd y Bont a'r hyn a welais yno oedd yr hyn a welir yn y llun uchod. A llinell ola' cerdd R. Williams Parry i'r "Llwynog" ddaeth ar amrant i'r cof. Ni allwn goelio fy llygaid, ond oherwydd fod y gweithdy ac adeiladau cyfagos yn Stryd y Bont yn llwybr y l么n arfaethedig drwy'r cae s锚l ac ymlaen i'r Stad Ddiwydiannol, nid oedd gan Gwen a David ond un dewis - cau y siop. Ac os oes rhywun o fysg gwyr busnes tref Llangefni yn haeddu ymddeoliad cynnar, yna Gwen a David yw dau o'r rheini.

Rhyw 12-15 mlynedd yn 么l y deuthum i yn ymwelydd cyson 芒'r gweithdy. Ers hynny, rwyf wedi mwynhau mynd yno bob tro. Fel cwt y crudd ac efail y gof a sawl un o siopau bach ein pentrefi ers talwm nid mynd yno yn unig i n么l neu brynu rhywbeth yr oeddech. Roeddech hefyd yn siwr o gael sgwrs ddifyr hefo'r perchennog a chyda cyd-ymwelwyr eraill. Roedd y byd yn cael ei roi yn ei le yno yn siwr, hefyd caech glonc neu ddwy! Eilbeth oedd trafod busnes ac heb yn wybod roeddech wedi treulio chwarter awr a mwy yno. Lle felly oedd palas Gwen a David yn Stryd y Bont, ac roedd ei gweithwyr oll o'r un anian hefyd.

O'r gweithdy hwn y daeth pob un copi o rifynnau Y Glorian dro gyfnod o 25 mlynedd a mwy. Tipyn o gamp onide, ac ar ben hynny pob rhifyn yn gymen a chwir, o safon uchel iawn ac wedi eu cyrchu i'r canolfannau plygu, (Gaerwen, Llangefni, Talwrn, Rhostrehwfa a Rhosmeirch) cyn i'r plygwyr cyntaf gyrraedd yno. Hyn ar waethaf rhai o ohebwyr y Glorian, a rhai o'r swyddogion, wedi sleifio i mewn i'r swyddfa hefo 'Stop Press' go bwysig yn eu tyb hwy. Derbyniwyd y rhain i gyd gyda gw锚n gan Gwen, dim gwg na siars.

Gan mai dweud 'Diolch yn fawr' yw'r drefn arferol pan yn ceisio datgan, mewn geiriau, deimladau'r galon am wasanaeth a chymwynasau lu, rhaid i mi gyfaddef nad yw geiriau felly yn ddigonol o bell ffordd i ddatgan teimladau fy nghyd-swyddogion a hefyd, mi dybiaf, holl ddarllenwyr Y Glorian. Pe bawn i'n fardd fe luniwn 'Awdl o Foliant' a 'Chywydd o Fawl' i chwi.

Gan nad wyf yn fardd rhaid bodloni ar 'Can diolch a mwy Gwen, David, Gwenda, Nia, Gerallt ac Alun am eich ymroddiad dros y blynyddoedd i achos 'Y Glorian.' Dymunwn pob bendith a hapusrwydd i bob un ohonoch i'r dyfodol ac yn arbennig felly i Gwen a David.

Wn i ddim pwy o F么n sy'n sibrwd yn achlysurol yng nghlust swyddogion yr Eisteddfod a'r Orsedd. Mi gredaf fod Gwen a David dros y blynyddoedd wedi cyfrannu yn aruthrol tuag at gynnal llenyddiaeth Gymraeg gyda'r holl bapurau bro, llyfrau o naws lleol, adroddiadau eglwysi a chymdeithasau ac yn y blaen, a gynhyrchwyd yn Stryd y Bont dros yr hanner can mlynedd diwethaf.

Argraffwyd y rhifyn hwn yng ngweithdy W. O. Jones yn Llangefni, cangen o'r un goeden deuluol eto. Rydym yn edrych ymlaen at flynyddoedd lawer o gyd-weithio yr un mor hapus gyda'r gweithwyr yno. Diolch yn fawr Mr Jones.

Ifan Wyn Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy