I'r anwybodus yn eich mysg - tu draw i Rosgoch, drwy Seion, i'r chwith heibio'r Crow a'r lle gosa' i'r Nefoedd - fanno mae Carreglefn neu'r Cen i bobl yr ardal. Ac i'r fan honno yr aed a ni yng nghynhyrchiad diweddaraf Theatr Fach Llangefni - i'r darn concrit o flaen drws y Post neu'r Siop Fawr a dweud y gwir. Y peth cyntaf a'm trawodd oedd gweld y ciosg ar y llwyfan ac oni bai fy mod yn eistedd yn y rhes gefn - bron na fuaswn yn taeru fod y paen o wydr a dorrais yn 1966 i'w weld o hyd!
Addasiad Tony Jones o lyfrau William Owen oedd y gwaith a Tony ei hun yn gyd gyfrifol am y cynhyrchu efo Owen Huw Roberts ac Iwan Evans yn gyfarwyddwr cerdd. Annheg fyddai enwi yr un actor oherwydd cafwyd gwaith ardderchog gan bawb - o'r hen i'r ifanc. Mae dyfodol y Theatr ar sylfaen eitha sicr os bydd y to ifanc yn parhau a'r to h欧n yn dal yno i'w cefnogi. Wel, a bod yn hollol onest, ni welais yr un ohonynt gan i mi gau fy llygaid drwy'r perfformiad a chael fy nwyn yn 么l i'r dyddiau braf hynny pan yn tyfu i fyny. Gan fod rhywun yn adnabod y cymeriadau ac yn cofio llawer ohonynt fel pobl o gig a gwaed, hyfrydwch pur oedd gwrando ar y lleisiau yn canu a llefaru a minnau yn gallu nofio'n braf mewn m么r o atgofion wedi hynny.
Mae cynulleidfa'r Theatr yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan Tony a'i griw a chafwyd ganddynt amrywiaeth dda o actio, canu a llefaru a dyna pam fod yr awditoriwm yn gyfforddus lawn ar y noson gyntaf hyd yn oed ac mae'n amlwg fod y neges wedi mynd allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau gan i'r lle fod yn orlawn bob noson arall. Braint i'r cast a'r criw oedd cael cyfarfod a William Owen ei hun ac yntau wedi gwneud y daith o Borth y Gest i Langefni ddwywaith er mwyn gweld y gwaith! Roedd gw锚n lydan ar ei wyneb pan yn troi tua thre' nos Sadwrn.
Os nad ydych yn gwybod lle mae'r Cen, yna ewch i'r Cwpwrdd Cornel i archebu'r llyfrau. Fe fyddwch yn sicr o gael mwynhad o'u darllen fel y cafodd cynulleidfa Theatr Fach o weld y cymeriadau yn dod yn fyw ar y llwyfan.
|