大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Kyffin Williams Oriel Kyffin Williams
Gorffennaf 2008
Daw gweithiau'r arddangosfa gyntaf o gasgliadau cenedlaethol, preifat a chyhoeddus.
Wedi ei lleoli oddi fewn i Oriel Ynys M么n, bydd Oriel Kyffin Williams yn deyrnged barhaol i un o artistiaid enwocaf a mwyaf uchel ei barch yng Nghymru.

Agorir Oriel Kyffin Williams gan Ardalyddes Ynys M么n ar 18 Gorffennaf.

Fel rhan o'r dathliad mae cerflun arbennig wedi cael ei gynhyrchu gan Michael Scheuermann.

Yn ystod yr wythnos agoriadol cynhelir gweithgareddau celfyddydol fydd yn sicr o apelio i nifer.

Mae llyfr arbennig hefyd wedi ei gynhyrchu i glodfori Oriel Kyffin Williams. Mae'r llyfryn hwn yn llawn lluniau o gasgliad Oriel Ynys M么n sy'n cofnodi pethau sy'n gyfarwydd i ni ond hefyd cawn hen ddelweddau pwysig o'r Ynys hon sydd wedi hen ddiflannu.

Yn ogystal a'r darluniau, mae yma nifer o baentiadau olew sydd ymhlith y gorau a gynhyrchodd Kyffin erioed. Mi fydd y llyfr ar werth yn siop Jac Do Oriel Ynys M么n.

Dywedodd deilydd y portffolio Hamdden, y Cynghorydd Eurfryn Davies, "Bydd Oriel Kyffin Williams yn deyrnged addas i lwyddiannau artistig y g诺r ac yn gartre parhaol i dros 400 o ddarnau o waith. Bydd yr Oriel newydd hefyd yn ased ddiwylliannol unigryw a phwysig yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol."

Rhodd hael

Bu Oriel Ynys M么n yn ffodus iawn o gael Syr Kyffin Williams, oedd yn enedigol o Langefni, fel hyrwyddwr i'r celfyddydau ym M么n a bu'n gefnogwr brwd a gweithgar o waith yr Oriel ers ei hadeiladu yn 1991.

Yn ei haelioni, rhoddodd Syr Kvffin Williams dros 400 o weithiau celf gwreiddiol i Orief Ynys M么n, o sgetys i ddarluniau i waith olew sylweddol.

Mae'r Oriel yn diogelu'r casgliad mawr a phwysig hwn a balchder er budd pobl M么n a'i hymwelwyr.

Rhoddodd Syr Kyffin Williams s锚l bendith ar y prosiect uchelgeisiol o sefydlu Oriel Kyffin Williams cyn ei farwolaeth ar 1 Medi 2006.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth yn enw Syr Kyffin Williams er mwyn gwireddu'r prosiect.

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i hyrwyddo gwaith Syr Kyffin Williams mewn sawl maes ac yn annog datblygiad gwaith celf artistiaid ifainc yn benodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy