Nid bod ar gefn beic oedd y peth mwyaf delfrydol ar awr fel hon, ond wedi ffarwelio efo'r ceir dyna'r unig ffordd i adael y lle, felly ffwrdd â ni.
Roedd y daith 214 milltir am fynd â'r pump ohonom o un pegwn o Gymru i'r llall, o arfordir Môn yn y gogledd i'r Rhws, Y Barri ar arfordir y de.
Daethom i fyny i'r gogledd ar y trên o Gaerdydd lle rydym yn fyfyrwyr.
Mae tri yn fyfyrwyr meddygol - Dafydd Sion Loughran (19) Abergwi1i; Huw Morgan Jones (22) Llangefni ac Ifan Teifi Rees (22) Llangrannog a'r ddau arall Huw Waters (22) Abergele yn astudio Ffiseg ac Ifan Gwilym (22) Cwmann am ddod yn Gynllunydd.
Wedi Ilond bol o basta a noson dda o gwsg rhaid oedd codi'n gynnar i gychwyn o Borthllechog ar y daith 95 milltir i Borth, Aberystwyth, cyn nos.
Roedd beicio ar lonydd Ynys Môn yn profi'n fwy o dasg na'r disgwyl. Ar gefn beic mae hi'n bosibl gwerthfawrogi tirwedd y ddaear yn well. Synnwyd ambell un fod cynifer o elltydd ar yr ynys!
Wedi pump awr o feicio drwy Borthaethwy, Caernarfon a chael hufen iâ ym Meddgelert, aros am ginio ym Mhenrhyndeudraeth - roeddem tua hanner ffordd. Yng ngwres yr haul canol dydd cario mlaen oedd rhaid. Bu bron i'r allt o Faentwrog i Drawsfynydd brofi'n drech na rhai ond daeth pawb i'r brig. Ymlaen i Ddolgellau!
Cyn cyrraedd Machynlleth - mwy o elltydd! Ond, os dringo, rhaid disgyn, a bendith oedd dod i lawr i Tal y Llyn a lawr drwy Corris.
Wedi teithio 80 milltir roedd y 15 milltir o Fachynlleth i Borth yn teimlo'n hir ac araf. Tair awr ar ddeg ers gadael yn y bore roedd pawb yn Borth - wedi llosgi, mewn poen ac wedi colli ychydig o bwysau! Cawod, cyrri a gwely!
Doedd dim amser i fwynhau y Borth, roedd 37 milltir i Cwmann,
Llanbedr-Pont-Steffan i'w teithio. Cafwyd braw ar ddechrau'r diwrnod gydag elltydd serth rhwng Borth ac Aberystwyth ond wedi hynny roedd y daith i Aberaeron yn braf.
Cafwyd seibiant yno i fwynhau sglodion a hufen iâ - a chawod fach o law cyn mynd ymlaen i Cwmann.
Ymlaciodd pawb nos Wener gan wybod nad oedd yn rhaid beicio'r diwrnod canlynol. Roeddem yn ddiolchgar inni drefnu'r dydd Sadwrn yn ddiwrnod gorffwys.
Nid oedd Llambed y lle gorau ar ddiwrnod glawog - ond gwell na bod ar gefn y beic!
Roeddem yn falch fod y glaw wedi ysgafnhau erbyn dydd Sul, y diwrnod olaf - 80 milltir i'r Rhws.
Erbyn Llandeilo roedd y glaw bron peidio ac roeddem yn dechrau sychu. Profodd Gwaun-Cae-Gurwen yn drech na'r teiars lle cafwyd unig 'puncture' y daith.
Roedd Castell Nedd ychydig dros hanner ffordd o Gwmann i'r Rhws ac felly
cawsom ginio dydd Sul yno.
Cafodd y tywydd hwy1 fawr iâ ni drwy y Pîl, Ewenni a Llanilltud Fawr - cawodydd trymion rhwng ysbeidia heulog.
Doeddem ni'n malio dim ein bod yn wlyb at ein crwyn wrt weld y môr a phen y daith yn y Rhws.
Er yn flinedig, roeddem wedi mwynhau a theimlad o lawenydd o fod wedi cwblhau'r milltiroedd.
Roedd angen mynd i Gaerdydd arnom eto ond dim awydd mynd ar
beics, lwcus bod trên ar gael.
Rhyddhad oedd bod gartref.
Diolch yn fawr i bawb a fu mor garedig â'n noddi - £1160 ar ddiwedd y daith gydag addewidion i ddod.
Sefydlwyd Ymchwil Canser Cymru gan fwrdd ymddiriedolwyr y 1966.
Mae prif swyddfa yr elusen yn Ysbyty Felindre Eglwys Newydd, Caerdydd.
Mae'r holl arian sy'n cael ei godi gan Ymchwil Canser Cymru yn cael ei wario yng Nghymru yn noddi gwyddonwyr ymchwil canser a'u gwaith trwy Gymru gyfan.
Mae nifer fawr o bobl yn diodde o gancr yng Nghymru, rhai yn lwcus i wella ond eraill y marw o'r afiechyd.
Credwn fod Ymchwil Canser Cymru yn achos gwerth chweil fydd yn cynorthwyo pobl fydd yn dioddef gyda afiechyd yn y dyfodol.
Huw Morgan Jones