Y tro yma yn lle mynd i Trelew aethom i Barelocke, tref fechan ar lan llyn mawr yng nghanol mynyddoedd yr Andes. Aros yma am dri diwrnod, mynd ar y llyn mewn llong a gweld golygfeydd ardderchog - gweld pistyll anferth mewn coedwig. Yna ymlaen i weld rhew du a chanolfan sg茂o anferth. Cyn mynd i'r gwely bob nos, byddem yn mynd am fwyd a chael llond bol am 拢2.50 yr un neu 27 peso eu harian hwy.
Cyfarfod 芒 hen ffrind oedd yn digwydd mynd i Esquel yn y bore a manteisio ar y cyfle i fynd ar daith mewn car yn lle bws.
Cyfarfod hen gyfeillion
Ar 么l rhyw bedair awr o daith drwy'r Andes, cyrraedd Esquel a chyfarfod Elinor ac Aira Hughes, hen gyfeillion ers deng mlynedd ac aros yno am wythnos. Aethom am dro i Drefelin ac i weld Lewis Thomas wrth lyn Losario. Efallai i rai ohonoch ei weld ar raglen Dai Jones, Cefn Gwlad, yn symud cannoedd o wartheg o dir isel i dir uwch yn yr haf. Mynd i weld y Ganolfan Gymraeg yn Esquel - Canolfan oedd wedi costio 拢100,00 - arian mawr iawn yno, a'r cwbl wedi ei gasglu gan noddwyr.
Roeddwn yn falch iawn o'r adeilad yma am fy mod yn un o bump oedd wedi codi 拢1,000 trwy reidio beic o Pourto Mont yn y M么r Tawel ar draws Chile a Phatagonia i F么r Iwerydd, taith o 850 o filltiroedd.
Daeth yr wythnos i ben a chychwyn mewn bws am Trelew yn y dyffryn, taith 400 milltir. Daethom o'r bws a theimlo'r gwres yn ein taro! Buom yn aros yma am bythefnos a chawsom gyfle i gyfarfod 芒 llawer o ffrindiau. Y drwg yma oedd ein bod yn bwyta llawer gwaith y dydd a chig ar y bwrdd bob dydd! 'Rhaid oedd cael 'siesta' ar 么l cinio am ei bod mor boeth.
Amser symud eto a'r tro yma i Gaiman, pentref hollol Gymreig. Cyfarfod yn y siop fara / caffi oedd yn gwerthu coffi ardderchog a chyfarfod dau arall o Gymru. Buom yn hel clecs a siarad Cymraeg gyda chymorth pobl y Gaiman. Beth oedd yn braf yma yn y Wladfa oedd nad oedd yr iaith fain yn cael ei thrwyn i mewn!
Gallwn lenwi tudalennau fil am ein saith wythnos yma, ond yn symud eto i Lawson - prifddinas Chubut, tref glan m么r gyda thraeth tair milltir tywodlyd a miloedd o bobl yn torheulo a phawb gyda lliw bendigedig! Dyma'r fan y sefydlwyd y Cymry cyntaf cyn ymestyn allan i'r dyffryn.
Mae'r dyffryn ddeugain milltir wrth ddeg a dyma'r lle mae'r mwyafrif o'r Cymry yn ffermio ac yn tyfu popeth fel yma yng Nghymru. (Yr unig wahaniaeth ydyw eu bod yn tyfu tomatos allan yn y caeau!)
Carnifal go iawn!
Rhaid symud eto, a'r tro yma o Dolavon - pentref bychan distaw, gyda phoblogaeth o rhyw dair mil. Tra yma cawsom y profiad o weld carnifal go iawn. Nid oedd yn dechrau tan 10 o'r gloch y nos, a channoedd o bobl ifanc hanner noeth yn dawnsio tan tua 5 o'r gloch y bore. Y rheswm am ddechrau mor hwyr oedd ei bod yn rhy boeth yn y prynhawn!
Troi am Trelew unwaith eto am ychydig ddyddiau cyn troi adref am 7.30 o'r gloch bore dydd Mawrth a chyrraedd adref ym Moelfre am 4.30 o'r gloch prynhawn Mercher.
Os ydych yn meddwl mynd draw i Batagonia, ewch ar bob cyfrif mae'n le braf a phobl garedig iawn yno.
John a Margaret Parry