Mae twll yn y wal yr oes yma yn handi iawn os ydach chi'n weddol gefnog i gael arian ohono, neu os yn dlawd i lyncu eich cerdyn.
Mae'r twll yn y wal yma yn perthyn i'r hen oes pan oedd Telford yn adeiladu'r A5 trwy Ynys M么n. Wal yr A5 sydd yn y llun ac yn derfyn i ddarn o dir sydd gen i sef Llain Colier Bach i hen drigolion Pentre Berw. A be oedd pwrpas y twll? Wel, roedd gwter y l么n uwch ei ben i dd诺r redeg drwyddo i'r llain sydd tua pump troedfedd yn is. Tros y blynyddoedd roedd tomen o raean wedi hel o fewn modfeddi iddo, hyd nes i mi ei chlirio rhyw fis yn 么l.
Yn 么l fy nhad, roedd pwrpas arall i'r twll pan oedd o, Glyn Penrhyn, Wil Twm Refail, Twm Batus a Percy Capel Ulo yn blant. Ar nosweithiau tywyll y gaeaf cyn s么n am olau stryd, eu castiau fyddai gwneud parsal bychan a'i roi yn sownd wrth linyn hir a'i adael ar ochr y l么n a gollwng pen arall y llinyn drwy'r gwter a thrwy'r twll yn y wal i'r llain lle byddent yn cuddio. Cyn hir deuai rhywun ar hyd y lon a gweld y parsal, aros am ychydig, sb茂o yn 么l rhag bod neb o gwmpas, ei godi yn slei a'i roi o dan ei gesail neu ym mrest ei g么t ac i ffwrdd yn waraidd. Wedi iddo fynd ychydig lathenni, byddai'r hogiau yn rhoi plwc sydyn i'r llinyn nes byddai'r parsal yn saethu o'i gesail ac yntau yn mynd nerth ei draed o gywilydd a'r hogia ochor arall i'r wal yn rowlio chwerthin. Clywais am y cast yma gan Tecwyn Carreg Wian hefyd. Felly mae'n rhaid fod Pentre Berw yn lle handi i hogia Gaerwen i ddod i wneud direidi yr oes honno. Bellach mae palmant hyd ochor y l么n, dim s么n am gwter a'r Hen Dwl yn y Wal yn 'obsolete'.
John Dewi Pritchard
|